Nid oes enw wrtho, ond pur amlwg mai gwr Llechrog Isa ger Amlwch ydoedd, yn talu £200 o rent [blwyddyn?] i Ardalydd Môn (gwêl Rhagfyr 21). Llawer am "sists" i'r gweision a'r morwynion, ac am wahanol drethi. Cael benthyg arian a rhoddi benthyg, hyd yn oed i ddynion ymddangosiadol gefnog fel Webster a gadwai waith vitriol Amlwch, a'r lleygwr Methodus John Williams o Ledwigan. Nid Oes fawr sawyr crefydd yma, dim ond talu 1/- at y Gymdeithas Genhadol [Llundain] ar Fedi 29. Amryw gyffyrddiadau diddorol: prynu oedd y brig "Acorn" a gollwyd ger Moelfre (Ionawr 1-3); talu i Neli'r Gors Goch am wau hosanau (Mawrth 3); dechrau hau ceirch yr eiltro (Ebrill 20); "coga yn canu" ar Lun y Pasc (Ebrill 23); y ddaear yn wyn gan eira (Mai 26); agor ben waith plwm Dulas (20 Mehefin); goleuni tân ar fryniau Môn oherwydd ymweliad brenin Lloegr, Sior IV, Awst 6.
Dyddiadur gan ŵr a oedd yn byw yn Llechrog Isa ger Amlwch, Ynys Môn
This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives
- Reference
- GB 222 BMSS/2638
- Dates of Creation
- 1821