(i.) 1-4 : Llythyrau oddiwrtho at y Llyfrgellydd presenol (Mai-Mehefin, 1937). Sylwer ar ei script a'i ddoniolwch.
(ii.) 5: [Copi o] "Gweddi efo'r Brenin a'i Deyrnas ... bob yn ail Penill Cymraeg a Saesneg megys Ymddiddan pan oedd Terfysg yn Scotland...1745" Thomas Williams yw'r awdur
(iii.) 6-9 yn llaw'r un gŵr o ysgrifenodd BMSS/705, sef Robert Evans y gôf o Bentrefelin, un a ymhyfrydai fyned ar ôl "hanesion hen oesoedd". Ar 6 fe welir copi go gywir o feddargraff a geid yn hen eglwys St. Chad yn Amwythig i'r Dr John Ellis, yn o feibion Ystumllyn, rheithor Llanddyfnan, Cantor Mynyw, a Changhellor Llanelwy (m. 1693). Hefyd, llawer am ei dras a'i dreigl. Llawn mwy diddorol yw 7-8 sef copi o'r penderfyniadau a basiwyd ym mai 1812 o dan lywyddiaeth y Viscount Bulkeley o Fôn ar y modd gorau i roii cymorth i W.A. Maddocks pan wnaethpwyd difrod ar y Cob gan lanw'r môr. Amrwy enwau, y bardd Shelley yn eu plith (addeweid o ganpunt), John Evans o Borth--yr-Aur (addewid o £50). Ymgais yn 9 i droi i'r Gymraeg dermau Saesneg fel "treacle" "muslin" "carbonate of soda" etc.
(iv.) 10-11 "Cyfrif o gostau adeiladau cappel Bethania [Nant Gwynant] yn y flwyddyn 1822"
(v.) "Ychydig hymnau y diweddar Barch. Peter Williams, Caerfyrddin" yn llaw ei fab y Parch Peter Bayly Williams o Lanrug
(vi.) 13-15 Mân bapurau yn ymwneud â phlwyfi Llanfrothen a Beddgelert (1839-1847)
(vii.) 16-18 Tri receipt am rent Gwastad Agnes i William William gan stiward Sir Richard Bulkeley (1839-1847)
(viii.) 20-23 Casgliad o autographs enwogion Cymreig - tua 50 ohonynt
(ix) 24-105 Casgliad o lythyrau gan mwyaf at Garneddog ei hun e.e. Charles Ashton yn gofyn cymorth i adeiladau y llyfr "Llyfryddiaeth" a gyhoeddwyd 1908 a Chadrawd yn holi hanes telynorion troed yr Wyddfa. Gyda'r mwyaf diddorol yw llythyrau Glaslyn a Myrddin Fardd. Doniol yw gweld Glaslyn yn cyhuddo Myrddin o ladrata y rhan fwyaf o'r llawysgrifau oedd ganddo yn Chwilog. Go agos atynt yw llythyrau'r Parch. Henry Hughes, Bryncir; Edward Owen o'r India Office; Dr Roberts (Isallt), yr Archddiacon, D.R. Thomas a Dr Owen Thomas, Lerpwl. Un o'r eitemau rhyfeddaf yw rhif 68 sef yr Athro J.E. Lloyd yn addaw prynu llyfr, ond yn anghofio rhoddi ei enw wrth gwt yr addewid!