Ar td. 1 ceir "Rhestr-lyfr Ysgol Sabbathol Nazareth [Pentraeth]. John Elias, Ysg." [sef John Roose Elias, "Y Thesbiad," mab y Parch. D. Elias].
O gwmpas 1839 (gwêl td. 41) yr oedd y rhestr mewn gweithrediad, tua "thrydydd cyfnod" Methodistiaeth Môn yn ol hanes John Prichard (gwêl y llyfr, td. 173-174); yr oedd John Williams o'r Frongoch heb fyned ymaith, Sion Prys [John Price] yn fyw (td.11) ac yn athraw ar ddosbarth o chwiorydd; hefyd, y gwr cerddorol John Thomas o Dros-yr-Afon (td. 5). Rhwng td. 22-23 gwniwyd i mewn Reolau yr Ysg. Sabbothol a gyhoeddwyd yng Nghaerlleon gan John Parry yn 1836; ar td. 38-43, gwelir rhyw frâs-gofnodion am gyfarfodydd athrawon a Chyfarfod Ysgol yn Llandegfan ar Fedi 8 [1839?].