Llythyrau at Glyn Myfyr, Ffestiniog [amdano ef, gwêl BMSS/2144-2175].

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/2381
  • Dates of Creation
    • Dechrau'r 20fed ganrif

Scope and Content

Llythyrau oddiwrth ddynion enwog a rhai cymharol enwog yw 1-10: Syr Owen Edwards (1,2), Elldeyrn o Nantglyn (3), Eifion Wyn (4), Gwernogle Evans (5, 6), R.H. Jones o Wallasey (7, 8, 9), a'r Seneddwr W. Llywelyn Williams (10). Oddiwrth y bardd Barlwydon, a fudodd o Ffestiniog i Lerpwl, y daeth 11-21, gyda chyfeiriadau at farddoni, llenydda, a llawer am afiechydon y corff. Oddiwrth Rolant Wyn [Edwards] y daeth 22-36, tebyg iawn o ran osgo a chynnwys i lythyrau Barlwydon. Daeth 37-81 oddiwrth y gwr da R.O. George o'r Treuddyn, un hoff o gân a cherdd, trigiannydd unwaith yn yr America, ac a gyfarfyddoedd â Glyn Myfyr am y tro cyntaf tua 1930 - llythyrau syml, naturiol, diabsen.

82-114 - llythyrau o Awstralia (1) ac America (y gweddill). Un diddorol iawn yw 82, oddiwrth Tom Jones, Newcastle, New South Wales, cyfaill i Gwilym Deudraeth pan oedd y gwr doniol hwnnw'n bennaeth gorsaf Tan-y-bwlch ar Lein Bach 'Stiniog, yn ymhyfrydu dyfynnu yr englyn crafog ar "Mari'n camgymeryd," ac yn dymuno ar i Glyn Myfyr anfon gweithiau cyhoeddedig Gwilym allan uddo'n Awstralia. Am y lleill, cwyd llawer ohonynt o'r ffrae fawr (gwêl 114, yn arbennig), a fu rhwng y Glyn a rhai o swyddogion Eisteddfod Edmonton yn 1935 ynghylch y gadair a ennillodd yno, ac o'r hon yr oedd mor nodedig falch yn ei flynyddau olaf. Pobl o gymdogaeth Ffestiniog yw'r llythyrwyr ymron i gyf: R.O. Davies o Los Angeles, Owen Hughes (Glascoed) o Vancouver, Tabitha Roberts o Utica, a Mrs. Trow o Fanitoba. Dywed Mr. Davies rai pethau go ddiddorol am hen wraig 90 oed ym Milwaukee a fu'n dysgu adnodau ar lin Ellis Owen o Gefn y Meysydd (88), am gyflwr pur adfydus rhai Cymry'r America (91) - "eglwys filwriaethus iawn yw eglwys Gymraeg Los Angeles."

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssglynm