Cyfres of lythyrau oddi wrth Bob Owen at Lyfrgellydd Coleg y Gogledd [Thomas Richards]

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/2497
  • Dates of Creation
    • Mawrth 1936 - 28 Medi 1938

Scope and Content

Ergyd amryw ohonynt yw ateb y cyhuddiad coeglyd fod Bob Owen wedi dirywio fel carwr llyfrau prin ynghanol y rhedeg a'r rasio mewn moduron ar draws gwlad fel organiser, part time. Yn 1 rhydd wybodaeth a gasglodd ynghylch hen deulu'r Nannau (hyn ar gyfer Catalog o'r papurau yng Ngholeg Bangor); rhydd 2, mewn iaith fras, blaen, ddobarthiad o'i waith tua chanol Awst, 1936; Bob, fel cenedleatholwr, mewn afiaith ar ol "treio'r tri" ym mrawdlys Caernarvon (4). Yn flaenor yng Nghroesor (6). Disgrifiad byw o'r havoc a wnaed gan yr ystorm fawr, Sadwrn a Sul, ddiwedd Chwefror, 1937 (7); myned i mewn yn ddi-wrthwynebiad ar Gyngor Sir Meirion (9). Gwybodaeth am Ffowc Bach y Cantwr, ac am amryw gerddorion eraill (10,11); amddiffyniad gwych i waith Ioan Brothen a geir yn 16; helynt doniol rhwng Bob a'r Llyfrgellydd Cenedlaethol am lawysgrifau'r diweddar Barch. D.D. Williams a geir yn 17, 18, 20, 21. Am 19, hanes helfa fawr o drysorau a gafodd draw ym Mawddwy.