(i) Llythyrau at Sion Wyn oddi wrth Dafydd Williams, Bron Eryri (1-6) 1820-1829. Mab Saethon yn Llyn oedd Dafydd Williams, cyfreithiwr a dyn busnes, ysgogydd codi rheilffyrdd a Rhyddfrydwr amlwg, A.S. dros Feirionydd 1868-9. Yr oedd iddo nerthoedd mawrion a rhinweddau lawer, a ffaeleddau amrywiol (yn ôl ei feirniaid); nid oes ddadl am ei fawr a'i hir garedigrwydd at y bardd afiach gorweddiog o Chwilog; yr oedd cynllun ganddo i gadw Sion yn ddiogel rhag tlodi; ef oedd un o'r rhai a ymunodd i brynu phacton fechan i'r bardd, a dweud nad oedd treth i'w thalu arni os nad oedd Sion am brynu merlen over twelve hands high i'w thynnu; cyn gynnared ag 1820, mynnai Dafydd Williams i Sion ymorol am gyhoeddi ei farddoniaeth yn llyfryn 3/- (ni wnaed hynny dan 1861, ddwy flynedd wedi i'r bardd farw, a chaed ail-arg. o'r gyfrol honno gan Jarvis & Foster yn 1910). Go ddigrif yw darllen (llythyr 3) am Dafydd Williams yn dod o scrap-book oddi wrth boneddiges o Lerpwl er mwyn i Sion, Dewi Wyn, a R. ap Gwilym Ddu ysgrifennu rhywbeth gwreiddiol ynddo; ufuddhaodd Sion a Dewi - am Robert, medd D.W., "he must be left to his vapours". Cyfeiriad yn llythyr 2 (1821) at Robert Jones, Rhoslan, oedd yn byw ar y pryd yn Carreg Dinas.
(ii) Llythyrau oddi wrth Dafydd Williams at Eben Fardd, 1837-1859 (7-11). Caredigrwydd a chymwynasgarwch sydd yn cynniwair drwy lawer ohonynt : sôn eto am gynllun i swcro Sion Wyn (1837); llawer cynnyg i rwyddhau'r ffordd i fab Eben, James Ebenezer, i ddod yn gyfreithiwr (fe aeth i swyddfa Breeze ym Mhwllheli am gyfnod byr); cymmeradwyo Eben i gynnyg am swydd relieving officer; rhoddi gwaith i'r bardd i gyfieithu i'r Gymraeg areithiau politicaidd a draddodesid yn Saesneg gan Dafydd Williams. Tipyn go lew o son am Eisteddfodau - wfftio Ab Ithel a'i ddefodau, chwerthin am ben y paratoadau at Eisteddfod fawr Llangollen, a chymharu'r Eisteddfodau â'r rheilffyrdd newydd fel moddion i ddyfnhau negeseuau gwareiddiad : "one railway is worth ten thousand Eisteddfodau as to its practical and beneficial results". Yn llythyrau 8 a 9 (1858) daw at bethau mwy teuluaidd a phersonol - egluro paham y newidiwyd yr enw Bron Eryri am Gastell Deudraeth (boneddwr o'r enw Williams wedi galw ei dy yn Llanberis yn Fron Eryri, a llythyrau D.W. yn myned beunydd at hwnnw); dweud bod ei wraig yn disgyn o hen deulu Wynniaid Maes-y-neuadd, ac felly o Osborn Wyddel (rhoi'r newydd hefyd iddo alw enw ei fab yn Osborn er cof am Osborn yr hynafiaid; os felly, oni newidiwyd ef yn Osmond ymhellach ymlaen, y diweddar Syr A. Osmond Williams, A.S. dros Feirionydd?).
(iii) Llythyrau Sion Wyn at Eben Fardd 1823-1853 (12-20) Braidd yn undonog a thraethodol; disgrifio ei afiechydon a'i brofedigaethau; son llawer (yn naturiol ddigon) am y bobl dda oedd yn garedig wrtho fel Mrs. Edwards o Dremadog (a symudodd i Fiwmares), y Dr. Hughes a roddodd bension bychan iddo yn ei ewyllys, am deulu'r Gwynfryn ger Llanystumdwy, ac yn llythyr 16 (Chwefror 21, 1837) am farw dau o'i brif garedigion sef Mrs. Dickinson neu Dickenson (rhaid mai un o ferched Nanhoron oedd hon, yr Anne Edwards a briododd foneddwr o'r enw D. o Lundain, Pedigrees, 161), a Mr. W. o Lanrug, sef y Parch Peter Bayly Williams, mab yr esboniwr. Tarawiadau mwy cartrefol yn 14 (helynt caru Eben yn 1829, ei deimladrwydd a'i fân siomiannau), yn 15 (anfon Geiriadur Pughe i'w rwymo mewn croen llo), yn 17 (dwyn i gôf yr adeg pan oedd Eben yn cadw ysgol yn Llanarmon,) yn 17 (Dewi Wyn yn Hydref, 1839 wedi rhoi tro am Lundain i geisio gwella o'i anhwyldeb), ac yn 18, Mawrth, 1843, anfon saith o englynion i fab bychan newydd-eni y bardd o Glynnog (gwelir hwy yng Ngweithiau Sion, arg. 1861, td.115-116).
(iv) Llythyrau Dr. John Pughe (Ioan ap Hu Feddyg) at Eben Fardd, 1844-1850 (21-25) Diddorol iawn. Genedigol o Fôn oedd y Doctor, ond dygwyd ef i fyny yng Nghlynnog, lle y daeth yn gyfeillgar odiaeth gydag Eben, a pharhaodd y cyfeillgarwch hyd y diwedd (gweler Cyff Beuno, Tremadog (1863), vi-xxiv, sylwadau Dr.Pughe -"Nodion a Hynodion Eben Fardd"). Didordeb mawr yn y llythyrau hyn yw'r prawf i'r meddyg tra'n byw yn Aberdyfi ddod yn achleswr mawr i grêd y Plymouth Brethren, sef y Blymowthiaeth a ddylanwadodd yn fawr ar Weirydd ap Rhys am gyfnod (gwêl Bangor MSS. 1684-1685), yr un Blymowthiaeth y bu hen Ymneilltuwyr fel Gwilym Hiraethog yn taranu mor enbyd yn ei herbyn. Yr argraff ddigamsyniol a ddyry'r llythyrau hyn yw nid yn unig bod y Doctor yn Blymowthiad dros ei ben ac yn brif arweinydd cynulleidfa o'r Brodyr yn Aberdyfi a'r cylch, ond hefyd i lawer ymddiddan ddigwydd ar y mater rhyngddo ef ag Eben, a bod tipyn go lew o gydymdeimlad Eben â'r mudiad gwrth-weinidogol hwn; yn wir, tystia dau o'r llythyrau (21,25), fod y bardd wedi rhoddi benthyg llawysgrif ei gasgliad o emynau i'r Doctor, ac y buasai'r Brodyr yn cyhoeddi hwnnw o dan eu nawdd ac ar eu traul pe bai amgylchiadau yn caniatau. Un arall o Glynnog y cyfeiria'r Dr. ato yn aml yw Evan Thomas - tybed ai ef oedd Evan Thomas y crydd (Hobley : Meth.Arfon, i, 97-98)?
Llythyrau'r Dr. yn dryfrith o bethau da : cyfeiriad at Dr. S.P. Tregelles, yr ysgolhaig Beiblaidd enwog, a'i daith i Rufain i graffu ar rai o'r Vatican MSS. (gwel lythyr oddi wrtho o Rufain at Eben Fardd, 16 Mawrth, 1846, yn Bangor 386 (viii); crybwylliadau am Griffith Evans o Faes-y-pandy fel aelod eithafol a byrbwyll o fudiad y Brodyr, brawd (mae'n bur debyg) i Evan Evans, Ty Mawr, ger Towyn, ac ewythr felly i'r diweddar Ddr.Griffith Evans, Brynkinallt, Bangor; cyhoeddi hefyd (24) fod gwraig Evan Evans mewn cymmundeb â'r Brethren, a bod y ddwy ferch mewn ysgol yn Henffordd, ac yn mynychu cyfarfodydd y Plymowthiaid yno. Beth bynnag, yr oedd gwr Plas-y-pandy wedi ymadael â'r Annibynwyr (23). Sonnir hefyd am bamffledau'r Brodyr a gyhoeddid yn Saesneg gan Campbell, Warwick Square, Llundain, ac yn Gymraeg gan James Rees, Caernarfon; taer gynghora Eben i'w ceisio a'u darllen. Y mae cryn ddwsin o'r pamffledau hyn yn y llyfrgell yma yn un gyfrol rwym; ac efallai mai'r un mwyaf diddorol yw'r Mynegiad o Egwyddorion, gyda rhaglith at y Saint a'r Brodyr sydd ar wasgar ar hyd ardaloedd Machynlleth, Towyn, Aberdyfi & c. (Ionawr 1845), y llith wedi ei llawnodi gan Griffith Anwyl a (Dr.) John Pughe o Aberdyfi; Edward Davies, hefyd o Aberdyfi; Owen Jones, Abermaw; ac Edward Baldwin Dolgellau. Yn llythyr 25 (Hydref, 1850) y mae'r Dr. yn llawdrwm iawn ar Griffith Anwyl, wedi ymadael a'r Brethren, a gwerthu ei hun am boblogrwydd ac arian i'r Methodistiaid Calfinaidd. Y mae cyfeiriad at yr un gwr - "gwr anwyl iawn ydoedd gan bawb" yn Hanes Meth. Gorll. Meir. i,241, lle y dywedir iddo am dymor hir bregethu'n gynorthwyol gyda'r Wesleaid, ond nid oes air am ei dymor gyda'r Brethren, a'r llofnod wrth odre'r Mynegiad o Egwyddorion yn 1845.
Yn llythyr 25 fe gyfeiria'r Dr. at ddod ag argraffiad allan o Feddygon Myddfai, ac y mae ganddo lu o gwestiynau i Eben ar y pwnc; aeth un-mlynedd-ar-ddeg heibio cyn iddo ymddangos, y Dr. Pughe yn gyfieithydd, Ab Ithel yn olygydd y gwaith, gwasg Llanymddyfri yn printio. Tipyn o newyddion o Aberystwyth yn 24 : gwr o'r enw Mr. Hackney,"who keeps a large glass shop", wedi troi at y Brodyr oddi wrth y Ficer Hughes ac eglwys Loegr, a swn erlid arno o'r herwydd; ysgolfeistr o'r enw Hughes wedi troi'n Babydd, ffrwyth cenhadaeth Babyddol yn y dref (gan ychwanegu, "puseyism very rife about Aberystwyth").
(v) Llythyr 26 oddi wrth W.Wynn Williams, Menaifron, Cernarfon, at Owen Williams, Waenfawr (Ionawr 13 1865). holi ynghylch achau gwr o Ddublin. Cymmer lawer yn ganiataol gyda threigl teuluoedd Bryn-y-mor, ger Penmaenmawr, a Thrwyn-yr-Wylfa; pa beth bynnag oedd ateb O.W., nid yw Pedigrees Mr.J.E.Griffith yn taflu dim golau ar y broblem.