Ymhlith y rhain ceir gweled script amryw Gymry pur enwog, e.e., Alafon, Dyfed, Yr Athrawon Ellis Edwards a Hugh Williams, Isaac Foulkes, yr Athro David Jenkins, Syr Henry Jones, Myrddin Fardd, W.J.Parry, Iolo Caernarfon, ac eraill, ond materion cymharol ddibwys ac achlysurol sydd ganddynt dan sylw.
Gwr ardderchog o barod a chymwynasgar oedd Ariander, ac yn ben llaw ar hyrwyddo pob math o fudiadau; sylwer ar lythyrau 4 a 5 (cofgolofn Daniel Owen yn 1899, a'r ysg. yn llawdrwm iawn ar frwdfrydedd yr Hwntws a'u hanghofrwydd yn anfon subscriptions), ar 28 (cofgolofn y Llyw Ola' yn 1895), ac ar 29 (llythyr cryf gan Owen Jones, Erwfair, yn beirniadu dulliau a moddau Pwyllgor hunan-etholedig Llundain ynglyn â choffa Tom Ellis). Yn 7 wele law gain a thlws Syr Owen Edwards; yn 10, Syr Vinsent Evans yn diolch am grybwyll ei enw fel ymgeisydd Rhyddfrydol dros Feirion (Awst 22, 1900). Dau lythyr diddorol (14-15) oddi wrth Gutyn Ebrill o Batagonia, yn llawn gofid am y gorlifiadau a swn Cymru yn symud i fyw o'r Wladfa; amryw gyfarchion oddi wrth Elfyn (16-21), yn ymestyn o 1896 hyd 1915; a Llew Llwyfo, mewn llaw fregus grynedig, yn bendant sicr i Iolo Caernarfon gael cam gyda'r Goron yn Eisteddfod 1891,ac Elfyn gyda'r Gadair (33). Cystal â dim yw atgofion Alltud Eifion (31) am deulu Gellidara (tad,mam a nain Ariander); a gwelir Gwilym Cowlyd wedi cyrhaedd pen llanw ei heresiau Eisteddfodol yn 38-45.