Rhoddion Ithel Davies, Ysw., Hendre, Porthmadog

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BMSS/4125-4149

Administrative / Biographical History

Ithel Davies mab y diweddar Mr. Jonathan Davies, Y.H., ac wyr i Pierce Davies, Cwmllan, Beddgelert (ac o Borthmadog, yn ddiweddarach). Ceir nodiad am P.D. gan William Hobley : Hanes Meth. Arfon, ii, 184, gan bwysleisio y gras o haelioni a roddwyd iddo; am Mr. Jonathan Davies, yr oedd ef yn un o gedyrn y Cyfundeb, yn naturiol flaenllaw yn nhre' Porthmadog a Sir Gaernarfon; dyrchafwyd ef yn Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd yn 1923. Gwêl ysgrif fawrhaol gynhwysfawr arno gan y Parch. J.H.Williams (Y drysorfa, Awst, 1923). Dyddiaduron Pierce Davies - ca'r tywydd le amlwg, yn enwedig stormydd, llifogydd, a gwres anosbarthus. Ar gyfer y Sadyrnau sonnir am hynt chwarel Cwmllan, am y cost seet (sheet), am arafwch cwmni o Saeson yn anfon cheques i dalu'r gweithwyr; entries am ymweliadau aelodau o'r cwmni; hefyd, codi inclines, gosod byrddau llifio, & c. Amryw gyfeiriadau at berthynasau yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, ac am anfon llythyrau yn bur reolaidd atynt. Digon o brofion bod P.D. yn ddyn gonest, cywir, gofalus o bethau'r byd hwn, ac yn llawn brwdfrydedd gyda buddiannau'r byd arall, fel y tyst ei lu manylion am gapel Bethania (Nant Gwynant).

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssdav