Ar gyfer cystadleuaeth eisteddfod - Awdlau, Pryddestau, Cywyddau & c. Gweithiodd yn dda gyda'r awdlau a'r pryddestau, ond torrodd ei galon pan ddaeth at y cywyddau (un sydd ganddo, td. 40-41). Cynllun da, llawysgrif ddestlus, a gwerthfawr iawn yw'r wybodaeth ynghylch awdlau (dyweder) argraffedig, a'r modd yr ymddangosasant o'r wasg. Gresyn i'r ymgeisydd laesu dwylo.
D.S. Dail ar goll rhwng 34 a 35. Amhosibl i Fynyddog (35) fod yn feirniad yn Eisteddfod Llangollen, 1908 (34).