Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llandudno a Queens Street., Wrexham, ac wedi hynny yn oruchwyliwr dros Ogledd Cymru i gartrefi Dr. Barnados; yn ystod Rhyfel 1914-1918 bu'n gaplan y y fyddin yn y wlad hon ac ynghanol yr ymladd mwyaf ffyrnig yn Ffrainc; dyna paham y gwyddai gymaint am ddyddiau olaf Hedd wyn (4903). Casglodd lyfrgell gyda'r orau yn y wlad. Yr oedd yn weinidog yn Llandudno pan oedd Gwalchmai (y Parch Richard Parry) yn hen hen wr; tyfodd cyfeillgarwch mawr rhyngddynt; R.P.Williams a drefnodd gofiant Gwalchmai a gyhoeddwyd yn 1899; ac iddo ef y daeth corff mawr papurau preifat yr hen fardd ar ei farw yn 94 oed yn 1897. Llythyrau at Gwalchmai, llawn safonau, pryderon, a diddordebau llenorion oes Victoria a geir yn 4868-4871; 4878-4879; 4902. Ar wahan i'r llythyrau, gannoedd ohonynt, ceir mân helyntion eglwysi Annibynnol (4873-4; 4880), amryw o feirniadaethau Eisteddfodol y mwyaf unplyg onest o feirdd yr oes (4885-4888); a rhai o'i gyfansoddiadau barddonol yn ei law ef ei hun (4881-4884). Yr oedd Peris Williams ei hun yn ohebydd cyson i'r British Weekly a'r Christian World; trwy ei bersonoliaeth ddymunol daeth yn gyfaill mawr â llawer o brif bregethwyr a llenorion y wlad, yn enwedig â'r Archdderwydd Hwfa Môn. Llythyrau at R.P.W. yw cyfrolau 4872 a 4891; dau ddyddiadur a ysgrifennodd adeg y Rhyfel yw 4892 a 4893; creiriau a ddaeth i'w gasgliad rywfodd yw 4894-4897, gan gynnwys 4895, record o ofalon Ceiriog fel station master yn 1872. Priodol, os dymuna rhywun fyned yn fanwl i hanes gyrfa Gwalchmai, yw cadw golwg nid yn unig ar y MSS. yn y casgliad hwn, ond hefyd gofyn am y Gwalchmai Papers yn y Llyfrgell hon, a mynnu gweled llawysgrifau eraill o'i eiddo y cyfeirir atynt yn y General Index. Bu farw yn y Rhyl yn 1942.
Daeth y deunyddiau i mewn deirgwaith, gan ymyrryd tipyn ar rediad a threfnusrwydd y papurau; o ganlyniad, os am wneud llawn gyfiawnder a'r llenorion a ysgrifennai at Walchmai, rhaid yw nid yn unig ddarllen 4868-4871, ond hefyd 4879 a 4902.