Uchafbwyntiau y gyfrol hon yw 4-6, ei hanes yn copio rhestri plwyfol o bob math bob hamdden a gai, yn enwedig ym Mhenllyn ac Edeyrnion (gwaith gwerth ei wneud, ac yn gofyn amynedd mawr); yn 6 a 8 disgrifia'r milwyr yn ardaloedd y Port a Llanfrothen yn treinio ar gyfer y commandos, gan roddi gair da iawn i'r Durhams a'r Indiaid (rhodd o bapur newydd Indiaidd iddo yw 10). Yn 11, 13, 15, 17 ac 18 gwelir Bob yn ei afiaith ynghanol cofnodion am Gymry yn mudo i'r America, yn adeiladu tablau pwysig a diddorol, a saernio casgliadau y clywir eto amdanynt (efallai) ynglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol (yn 12 ymosoda'n bur erwin ar golliadau yn y Bibliographies o lên Americanaidd Gymreig a gyhoeddwyd gan awdurdodau'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1942). Sôn am drysorau Brondyffryn yn Nyffryn Clwyd (19, 22), lle na chafodd ef na minnau lawer o lwc yno. Lecsiwn fawr y Brifysgol (Ionawr 1943) yw prif destun 24-26, Bob yn aelod o'r blaid genedlaethol, minnau heb fod - dyna a gyfrif am y mellt a'r taranau yn 26. Profa 21 mai yr un Bob Owen ydoedd tua 1917, gyda'i feirniadaeth gras ar gymdeithas, a 1 mai yr un oedd yn 1932, pan anfonodd analysis deifiol o'r arian a ddeuai i mewn iddo, at y Commissioner of Taxes ym Mhorthmadog.
"Llythyrau Bob Owen"
This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives
- Reference
- GB 222 BMSS/4898
- Dates of Creation
- 1942-1943