td.1.
(i) Dr Iorwerth Peate at J.W.J. (01 Tachwedd 1944) . Diolch am roddion i'r Amgueddfa Genedlaethol.
(ii) George M.Ll. Davies at J.W.J. (d.d.) ynglyn a chyhoeddi hanes Eglwys Moriah, Dolwyddelan.
td.2.
T.Gwynn Jones at J.W.J. (18 Mai 1948) . Diolch am gopiau o lythyrau ac englynion.
td.5.
T. Gwynn Jones at J.W.J. (7 Rhagfyr 1942). Diolch am roddion; anfon copi o'r Macbeth ; a holi ynghylch "Ioan Machno" a "Carwad",, dau o gyfelllion Cadivor Wood a rhai o arloeswyr y Wladfa ym Mhatagonia.
td.7.
(i) Dr Iorwerth Peate at J.W.J. (16 Tachwedd 1942). Hoffai gael y llestr pren a'r garreg dan a gynnigir gan J.W.J. W.J. Gruffydd yn anfon ei ddiolch am nodyn am Alexander Smith a'i gysylltiad ag " Islwyn".
(ii) William Griffith, Hen Barc, Llanllechid, at J.W.J. (27 Chwefror 1944) ynglyn a gwerthu copiau o gasgliad J.W.J. o waith "Gwilym Deudraeth", Yr Awen Barod, 1943.
td.11.
"Anthropos" at J.W.J. (24 Rhagfyr 1942). Cyfeirio at ei lesgedd a chanmol colofn J.W.J. yn Y Cymro- "Y Fainc Sglodion".
td.16. Dr Iorwerth Peate at J.W.J. (28 Mai 1945 ). Holi am hen ffon ddiddorol sydd ym meddiant J.W.J. a diolch am ei gyfraniad tuag at ddarlun T.Gwynn Jones.
td.17.
(i) Dr Peate eto at J.W.J. ( 9 Medi 1942). Diolch am ei eiriau caredig adeg yr helynt rhwng Peate ac awdurdodau 'r Amgueddfa ynghylch ei wrthwynebiad cydwybodol i'r Rhyfel.
(ii) T.Gwynn Jones at J.W.J. ( 2 Mehefin 1943). Beddargraff "Ioan Brothen ".
(iii) F.L Stevenson , ysgrifenyddes D. Lloyd George (yr ail Mrs D.Ll.G. yn ddiweddarach ) at J.W.J. (2 Awst 1943) yn diolch am gopi o waith "Ioan Brothen".
td.18-19. T. Gwynn Jones at J.W.J. (16 Mai 1928) . Hanes cyflwyno darlun o "Elfyn" i Goleg Harlech a chydnabod astudiaeth o waith y bardd ; "snobri " a "snobiadd"- "snob y Coleg" a " snob y chwarel".
td. 21. T.Gwynn Jones at J.W.J.(11 Mai 1931). Papurau " Isallt " ; ystyr y gair "singleri"; hanes trist mab Robin Sion, un o arloeswyr y Wladfa.
td.22 a 23. Frances Lloyd George at J.W.J. ( 25 Chwefror ac 15 Ebrill 1944) . Diolch am ddarn o hen glo oddi ar giat mynwent Llanfrothen - cofeb o un o frwydrau cynnar ei gwr.
td.24. Frances Lloyd George at J.W.J. (10 Chwefror 1944). Diolch am gopi o Yr Awn Barod.
td. 25. T. Gwynn Jones at J.W.J. (29 Gorffennaf 1927). Anfon copi o'r "Gennad" "i chwi syr, sy'n wr bonheddig".
td. 26-27 John Morris Jones at "Alafon" (d.d.) ( Owen Griffith Owen ). Gofyn iddo fedyddio 'i eneth fach - "yn y ty ... rhag rhodres".
td.28. "Wil Ifan" at J.W.J. (12 Chwefror 1944) Diolch am gopi o Yr Awen Barod.
td.29 "Trebor Mai " ( Robert Williams ) at "Gwilym Prysor" ( tad y Parch William Pari Huws ). ( 3 Mehefin 1868) . Cydymdeimlo ag ef ynei brofedigaeth.
td. 33 O.M. Edwards at "Elfyn" (Robert Owen Hughes ) (6 Chwefror 1912 ) ; Erthygl "Elfyn" ( yr olaf o dair) ar Lanrwst sydd i ymddangos yn Cymru.
td. 34-35 . W.H. Reese y bardd, o swydd Durham at J.W.J. ( Mehefin 1943). Canmol "Y Fainc Sglodion " yn Y Cymro.
td.36. Dr Iorwerth Peate at J.W.J. ( 14 Mawrth 1944) . Gofyn iddo am enwau gwneuthurwyr clociau o Feirionnydd; holi hefyd ynghych buddai gwn Bwlchtocyn.
td.38-40. Evan M. Powell (brodor o feddgelert) o Milwaukee , U.D.A. at J.W.J. (d.d.) Canmol gwasanaeth J.W.J. i lenyddiaeth Gymraeg a son am a holi hynt plant Ffestiniog.
td.48. "Mynyddog" ( Richard Davies ) at ? (d.d.) Anfon dwy gan.
td.49. Dr G. Pari Huws , Old Colwyn at J.W.J. ( 19 Tachwedd 1944) . Anfon nifer o hen lythyrau diddorol etc.
td.51
(i) Michael D. Jones at [ Y Parch William Pari Huws ] ( 11 Awst 1892 ) ar achlysur marw " Gwilym Prysor " , tad W.P.H.
(ii) " Mynyddog" at [ ? " Gwilyn Prysor"] ( 10 Medi 1869). Anfon can, "Accen Colomen".
td.53. " Mynyddog " at "Gwilym Prysor " ( 5 Mawrth 1866 ) Anfon dau englyn.
td.55. " Bryfdir " at J.W.J. ( 11 Tachwedd 1944 ) yn anfon " ychydig dameidiau....sglodion".
td.56-57.W. Llewelyn Davies , cyn - lyfrgellydd y llyfrgell Genedlaethol , at J.W.J.( 14 Rhagfyr 1944 a 23 Chwefror 1945), yn diolch am roddion i'r llyfrgell.
td.63. "Llew Llwyfo" (Lewis William Lewis ) at [?] ( 19 Chwefror 1876 ) ynghylch ysgrifau sydd i ymddangos yn yr Herald Gymraeg.
td.64. W.Llewelyn Davies at J.W.J. (24 Mehefin 1948 ) yn diolch am roddion i'r Llyfrgell Genedlaethol.
td.73. Eileen Brady , ysgrifenyddes Ladi Megan Lloyd George , at J.W.J. ( 23 Rhagfyr 1947 ) ynglyn a'r gofeb i Morgan Llwyd.
td.74. "Dyfed" ( Evan Rees) at Alafon" (d.d.) . Beirniadau cynhyrchion eisteddfodol .
td.75. D.R. Daniel o'r National Liberal Club, Llundain , at " Alafon" ( 23 Ionawr 1911) yn anfon copi o "Gywydd y Bad Gwyn " gan John Glyn Davies, Lerpwl.
td.76-77. J. Lloyd Williams from the University College of North Wales to "Dr Roberts " (7 Rhagfyr 1908 ) offering to arrange some songs for a choir.
td.78. H. Ariander Hughes , Llanberis , at [?] ( 8 Ionawr 1916 ). Son am ymweliad a'r Parch Robert Roberts , Colwyn Bay.
td.79. Ellis Edwards from Bala to "Mr Owen" [ ? Alafon ] ( 21 May 1903) requesting a contribution for the number of the College Magazine.
td.80. [Y Parch ] T. Charles Williams o Lundain at [?] (d.d.) . Diolch am " gyfieithiad ", a son amdano 'i hun yn pregethu yn y City Temple.81. Y Parch E.Lewis Evans , Pontarddulais at J.W.J. ( 12 Rhagfyr 1948) . Materion llyfryddol.
td.84- 85. Morus ap Hughes o Trelew, Chubut, Patagonia at J.W.J. ( 9 Rhagfyr 1953 ) . Hanes ei dad a'i deulu; un ferch iddo'n wraig i'r diweddar Evan Thomas , golygydd Y Drafod.
td.87. Howel Williams , Llundain at " Elfyn" ( 24 Chwefror 1948) . Diolch am wybodaeth ynglyn a "Hedd Wyn".
td. 96. Y Parch Ddr. John Owen , Morfa Nefyn at J.W.J. ( 16 Ionawr 1953 . Diolch am gymwynas.
td.108. Gwilym R. Jones , Golygydd Y Faner at J.W.J. ( 12 Chewfror 1948) ynglyn ag awdur englyn yr holai J.W.J. amdano yn Y Cymro.
td.109 . T. Gwynn Jones at " Alafon" ( 23 Medi 1912). Adolygu Cathlau Y Beirniad ; son am ei weithgarwch ef ei hun; agwedd awdurdodau 'r Llyfrgell Genedlaethol tuag ato... "os caf orffen y pethau sy gennyf ar eu hanner yn awr , nid wyf yn meddwl yr ysgrifennaf air o gymraeg byth mwy".
td.110. T. Gwynn Jones at J.W.J. ( 23 Medi 1926) . Caniadau ( Gwasg Gregynog ) a'i gywydd " Bro Gynin ".
td.111. T. Gwynn Jones at J.W.J. ( 25 Medi 1926) . Anfon copi o " Nyth Gwag": englynion Gwilym Deudraeth.
td.114. " Mrs Anthropos " at J.W.J. ( 10 Chwefror 1948) yn ei wahodd i Gaernarfon i ddewis rhai o lyfrau ei gwr.
td.115. T. Gwynn Jones at [ ? "Alafon"] ( 3 Mawrth 1910) yn rhoi tipyn o'i hanes er pan adawodd Caernarfon; ei waith yn y Llyfrgell Genedlaethol etc. ; trafod llenorion a llenyddiaeth.
td.116. D. Tecwyn Evans at J.W.J. ( 23 Mawrth 1946). Diolch am rodd - Gwaith Robert Jones , Rhoslan.
td.117. Sir Osmond Williams from Castell Deudraeth , Penrhyndeudraeth , to " Elfyn " ( 30 September 1901) thanking him for his account of the County Council meeting at Blaenau.
td.119. " Eifion Wyn " at "Alafon" (d.d.) , materion eisteddfodol.
td.120-121 . T. Gwynn Jones at J.W.J. (28 Ionawr 1945) Anfon cyfeithiad saesneg o emyn R.R. Morris : "Ysbryd byw y deffroadau" , a thrafod rhai o broblemau cyfieithu.
td.122-123 Alun Jones, Blaenau Ffestiniog at J.W.J. ( 18 Mawrth 1945) yn diolch am ei lythyr yn ei longyfch ar ennill am gyfieithu emyn R.R.Morris.
td.124. "Gwilym Cowlyd" (William John Roberts ) at [?] ( 27 Chwefror 1892) yn ymddiheuro am esgeuluso anfon rhestr o'r " neillduolion cymreig sydd yng nghafellau y gigfranfa yma".
td.126. John Morris Jones at [?] (16 Mai 1904 ) , materion eisteddfodol.
td.127. David Davies, llandinam to "Alafon " ( 12 April 1910) , thanking him for a wedding gift.
td.129. "Elfed" at " Alafon " (d.d.) ; materion eisteddfodol.
td.130. J.T.Job at [? " Alafon] ( 29 Mawrth 1906) , materion eisteddfodol.131. W.Lewis Jones, Bangor at [ ? Alafon] ( 24 Tachwedd 1902) ; diolch am gopi o'i awdl [anfuddugol, ar "Ymadawiad Arthur"].
td.132. Vincent Evans at "Elfyn" ( 31 Rhagfyr 1896) ynglyn a medal sydd i'w chyflwyno i " Elfyn" gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol.
td.145. Islwyn ap Nicholas from Aberystwyth to J.W.J. ( 5 June 1946) thanking him for supplying him with certain information he required.
td.147. [ Yr Athro ] Griffith John Williams o Cookstown , Iwerddon, at J.W.J. ( 21 Mawrth 1928) Cyfeillgarwch tadau'r ddau , etc.
td.153. D. Tecwyn Evans at J.W.J. ( 17 Tachwedd 1944) . diolch iddo am ei ddymuniadau da "parthed cael y teitl o ddoctor " etc.
td.154. Dr Moelwyn Hughes o St. Clears at J.W.J. ( 1 Rhagfyr 1942) yn cydymdeimlo ag ef farw ei frawd etc.
td.156-157. Dauo'r "250 o lythyrau" a dderbyniodd J.W.J. pan wahoddwyd ef i fod yn un o'r llywyddion yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog, 1945.
td.160. E. Morgan Humphreys at J.W.J. ( 3 Rhagfyr 1944 ) yn diolch am englynion a gwybodaeth ynghylch cysylltiad "Anthropos" a'r Ameroedd.
td.161. George M.Ll.Davies at J.W.J. ( 23 Chwefror 1948 ) ynglyn a MS. cofiant Daniel Lloyd Davies, Utica, i'r Parch Eli Evans sydd yng nghofal J.W.J.