Papurau John Williams, neu John William Prisiart, Plas y Brain, Môn (1749-1829)

Scope and Content

Serch mai degwm papurau John Williams a achubwyd, dyry y casgliad bychan yma lawer iawn o oleuni newydd ar drâs a thyfiant teulu Clwchdernog, a phrofant yn bur eglue nad oedd J.E. Griffith yn hyddysg yn eu hanes pan ososdodd y Pedigrees wrth ei gilydd.

Administrative / Biographical History

Roedd John Williams yn fab i un o ymneilltuwyr cyntaf Ynys Môn ac iddo yrfa ramantus dros ben. Er bod John William Prisiart yn ŵr crefyddol ac yn mynychu Cyfarfodydd Misol y Methodistiaid (gwêl ei ddyddiadur am 1797) nid oedd yn gystal crefyddwr a'i dad o bell ffordd. Ni chododd ef erioed yn flaenor yng Nglasinfryn.

Hynafiaethau, physigwriaeth gwlad, cerfio ac ysgrifennu cywrain - dyna ei hoff bethau. Yr oedd yn ŵr parod gydag ewyllysiau a llythyrau cymyn; a gelwid ef yn aml i fod yn athrywynwr rhwng pleidiau ac i roddi ei farn a'i gyngor with gyfnewid tiroedd (am enghraifft dda o hynny gwêl Plas Gwyn 147-148).

Gweler y catalog papur yn yr ystafell ddarllen am wybodaeth achyddol am deulu John Williams gan Thomas Richards.

Other Finding Aids

Another catalogue description can be found here https://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmssjwpp