Gŵr oedd ef a garai'r encilion; darllennai lawer, a darllennai'n drwyadl; yr oedd ganddo chwaeth uchel a llyfrgell ddewisol; bu'n gystadleuydd cyson peryglus yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn enwedig yn ugain mlynedd cyntaf y ganrif hon. Anaml y ceid script glanach gan neb. Casheai rysedd ymadrodd, a gofalai am roddi ei awdurdod dros yr hun a ddywedai. Da iddo pe buasai ganddo fwy o ddychymyg ac anturiaeth meddwl; a gresyn na chawsai ddisgyblaeth lem y Prifysgolion yn ei ddyddiau cynnar. Ond yn ddios, gŵr coeth ei feddwl, ac un o ragorolion y ddaear.
Llawysgrifau o waith y diweddar Barch. D.D. Williams, M.A., Manchester a Lerpwl
Archive Unit
- For more information, email the repository
- Advice on accessing these materials
- Cite this description
- Bookmark:http://archiveshub.jisc.ac.uk/data/gb222-bmss/2001-3000/bmss/2499-2512
- This material is held at
- ReferenceGB 222 BMSS/2499-2512
- Dates of Creationd.d.