Argraffwyd yn Llundain gan Ddirprwyon Christopher Barker yn 1588.
Wynebddalen, t.t. i-iii, a 555 ar goll a t. 554 yn anghyflawn.
Clawr pren wedi'i orchuddio â lledr ac atgyfnerthiad lledr ar y meingefn - y tebyg yw mai dyma'r clawr gwreiddiol.
Oddi mewn i'r clawr blaen glynwyd tudalen o nodiadau diwinyddol ac oddi mewn i'r clawr ôl ceir "Robert Edwards Elizabetham Willielmum Rejection. Elizabethem Williames his hand 1729"