Llyfr John Williams sef nodiadau o'i bregethau ef ei hun a "chofnodau" o bregethau pobl eraill

Scope and Content

Dengys ei hun yn drwyadl gydnabyddus a phrif bobl Jewin yn y blynyddau 1830-1838 : siarad yng nghwrdd Jiwbili'r Ysgolion Sabbothol (14 Hydref 1831) gyda John Rees, Crown Street (tt. 81-83); areithio yng nghyfarfod y nos yn y cwrdd ympryd oherwydd dychryniadau pla'r cholera (21 Mawrth 1832 - t. 108); gwneuthur sylwadau yn yr Ysgol Sul (4 Mawrth 1834) ar ol marw'r blaenor Edward Jones (tt. 106-7); ymweled a'r hen flaenor Morgan Hughes ychydig cyn ei farw (t. 186). Cofnoda bregethau Ebenezer Richards ar ddydd Nadolig 1835 (t. 159) ac R. Jones, Llanwyddelan (t. 192), James Hughes ar 31 Mai 1837 (t. 213), David Charles, Caerfyrddin (tt. 217-8) a'r Dr Thomas PHillips ar y Feibl Gymdeithas, 25 Chwefror 1838 (tt. 219-20)

Administrative / Biographical History

Aelod a phregethwr yng nghapel M.C. Jewin Crescent, Llundain oedd John Williams. Tystia tudalen 128 iddo ddod i Gymdeithasfa Cydweli (Gorffennaf 1832) gyda llythyr cyflwyn oddi wrth brodyr yn Llundain yn dweud yn dda am ei ymarweddiad crefyddol "a'm Llafir yn y Weinidogaeth"; yng Nghymdeithasfa Llangeitho (Awst 1832), "rhoddodd y Corph arwydd o foddlonrwydd hollol [ynof] ac yno cefais fy nerbin yn Lafurwr i'r Corph". Enwa'r arweinwyr a fu'n ei holi - William Roberts, Amlwch; Cadwaladr Williams [Penceint]; John Jones, Tremadoc; ac "un gwr mawr o sir Benfro" a geisiodd ei "iseli" (meddai ef) a'i rwydo yn ei ymadroddion.

Mae'n ymddangos mai o dref Aberteifi y deuai John Williams a chofnodir yn y gyfol hon iddo briodi Eliza Phillips yn eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin ar 23 Hydref 1832. Weithia arwydda ei enw "J.G. Williams". Trigai am gyfnod yn 13 Southampton Row a dywed ar t. A1 "commenced at Deptford and Woolwich, Saboth, 24 October 1830"