Papurau yn ymwneud â "Y Dinesydd Cymreig"

Scope and Content

Cynnwys y rhain pob math o ohebiaethau a ddaeth i law Mr Percy Ogwen Jones.

Teifl y papurau hyn beth wmbredd o oleuni ar drefniadaeth fewnol y Blaid Lafur, ar bwy oedd ei phrif swcrwyr, ac ar helbulon parhaus golygydd papur newydd.

Administrative / Biographical History

Newyddiadur y Blaid Lafur yng Ngogledd Cymru oedd "Y Dinesydd Cymreig". Daeth y rhifyn cyntaf allan ar 8 Mai 1912 a'r olaf ar 10 Gorffennaf 1929.

John Huw Williams (1871-1944) oedd un o dri sylfaenydd y papur, ei olygydd hyd 1925, a'i oruchwyliwr hyd 1926.