Llythyrau at Morris Jones, 1933-1977, oddi wrth Saunders Lewis ac eraill; copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu gan Saunders Lewis. Huw Lloyd Edwards, F. Sladen-Smith ac Ieuan Griffith, a chyfieithiadau o ddramâu Shakespeare gan J. T. Jones, Porthmadog,[1934]-[1968]; posteri ar gyfer dramau a berfformiwyd gan Gwmni Garthewin neu yn Theatr Garthewin,1946-1958; cynlluniau mewn dyfrlliw a phensil o wisgoedd a setiau, [1948]-[1959]; cynlluniau llwyfan,[1968]; ffotograffau o berfformiadau, [c. 1947]-[c.1980]; tocynnau, raglenni ac effemera arall, 1946-1977; gohebiaeth ynglŷn â'r theatr a'r cwmni,1946-1954; llyfrau cofnodion, 1949-1989 (ynghyd â nodyn, 1994); papurau ariannol,1946-1985; papurau cyffredinol,1946-1971; torion papur newydd,1946-1977; a rhaglenni'n ymwneud â chwmnïau theatrig eraill,1947-1984 = Letters to Morris Jones, 1933-1977, from Saunders Lewis and others; manuscript and typescript copies of plays by Saunders Lewis, Huw Lloyd Edwards, F. Sladen-Smith, and Ieuan Griffith, and translations of Shakespeare plays by J. T. Jones, Porthmadog, [1934]-[1968]; posters of plays performed by Cwmni Garthewin or at Theatr Garthewin, 1946-1958; watercolour and pencil designs of costumes and sets, [1948]-[1959]; stage plans, [1968]; photographs of performances, [c.1947]-[c.1980]; tickets, programmes and other ephemera, 1946-1977; correspondence concerning the theatre and company, 1946-1954; minute books, 1949-1989 (with a note, 1994); financial papers, 1946-1985; general papers, 1946-1971; newspaper cuttings, 1946-1977; and programmes relating to other theatre companies, 1947-1985.
Papurau Theatr Garthewin,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 GARWIN
- Alternative Id.(alternative) vtls003844566(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1933-1994 /
- Name of Creator
- Language of Material
- Cymraeg.
- Physical Description
- 0.072 metrau ciwbig (7 bocs, 1 cyfrol)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Sefydlwyd Theatr Fach Garthewin gan R. O. F. Wynne, Garthewin, Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych, yn 1937, pan addasodd ysgubor ar ei ystâd yn theatr. Daeth yn un o'r theatrau bach mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Yn 1947 ffurfiodd Morris Jones (bu farw c. 1986) gwmni 'Chwaraewyr Garthewin'. Perfformiwyd drama Saunders Lewis, Blodeuwedd, ganddynt yn y theatr yn 1948. Ysgrifennodd Saunders Lewis sawl ddrama ar gyfer y Theatr yn cynnwys Siwan a berfformiwyd yno am y tro cyntaf yn 1954. Llwyfannwyd nifer o ddramâu Huw Lloyd Edwards yno am y tro cyntaf hefyd. Caewyd Theatr Garthewin yn 1969, ond parhaodd Chwaraewyr Garthewin, dan gyfarwyddyd Morris Jones i berfformio dramâu a chynnal gwyliau mewn mannau eraill tan tua 1980. Mae'n ymddangos bod Chwaraewyr Garthewin yn dal i fodoli tan tua 1990.
Arrangement
Trefnwyd yn ôl dyddiad derbyn.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Mr Morris Jones a Mrs Clarice Jones,; Hen Golwyn,; Rhodd,; 1985 a 1986
Clarice Jones,; Hen Golwyn,; Adnau,; 1987-1988 (a'u cyflwyno'n rhodd gan Miss Eirian Evans, Abergele, Clwyd, yn 1994
Note
Sefydlwyd Theatr Fach Garthewin gan R. O. F. Wynne, Garthewin, Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych, yn 1937, pan addasodd ysgubor ar ei ystâd yn theatr. Daeth yn un o'r theatrau bach mwyaf dylanwadol yng Nghymru. Yn 1947 ffurfiodd Morris Jones (bu farw c. 1986) gwmni 'Chwaraewyr Garthewin'. Perfformiwyd drama Saunders Lewis, Blodeuwedd, ganddynt yn y theatr yn 1948. Ysgrifennodd Saunders Lewis sawl ddrama ar gyfer y Theatr yn cynnwys Siwan a berfformiwyd yno am y tro cyntaf yn 1954. Llwyfannwyd nifer o ddramâu Huw Lloyd Edwards yno am y tro cyntaf hefyd. Caewyd Theatr Garthewin yn 1969, ond parhaodd Chwaraewyr Garthewin, dan gyfarwyddyd Morris Jones i berfformio dramâu a chynnal gwyliau mewn mannau eraill tan tua 1980. Mae'n ymddangos bod Chwaraewyr Garthewin yn dal i fodoli tan tua 1990.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Ceir copïau caled o'r catalogau yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1987, tt. 38-40, 1989, tt. 20-21, a 1995, t. 31. Mae'r rhestri ar gael ar lein hefyd.
Archivist's Note
Mai 2003
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1987, 1989, 1995; Davies, Hazel Walford, 'Theatr Garthewin', Barn, 377 (1994).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau
Bibliography
Davies, Hazel Walford, Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Llandysul, 1995).
Additional Information
Published