COPI LLYTHYR: (9 Awst 1911) T. Charles Williams, Treflyn, Gwalchmai, Valley at Mr. Jones. Mae'n ddrwg ganddo ei fod wedi cymeryd y sylwadau a wnaeth ar ysgrifennu pregethau yn bersonol. Mae'n pasio sylwadau at rhai pobl sydd yn treulio'r holl bregeth a'u pennau mewn llyfrau nodiadau ond sydd yn cofio dim am y bregeth ar y diwedd. Modd i wrando darlith yw hwn, nid modd i addoli. Dealla ei fod ef yn ysgrifennu'r bregeth i lawr er mwyn ei darllen i rai sy'n methu dilyn y gwasanaeth, ac mae'n gweld hyn yn beth da.
Cysylltwyd: CYLCHGRAWN (Ebrill 1975) Y Bont, sef cylchgrawn Cymru glannau Mersi yn cynnwys y llythyr uchod a llythyr hefyd gan J. E. Jones yn siarad o blaid gwneud nodiadau yn ystod pregethau.