Y mae'r papurau'n ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg ym Mhenmaen-mawr yn 1965 a'r ymgyrch aflwyddiannus i sicrhau ysgol gynradd Gymraeg yno. Yn eu plith ceir cofnodion, 1964-1968; copi o gyfansoddiad y gymdeithas; gohebiaeth gyffredinol, 1964-1967 (gan gynnwys llythyrau oddi wrth Dr Kate Roberts a Ffowc Williams, Llandudno); a gohebiaeth gyda Phwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, 1964-1967, (llythyrau oddi wrth Mansel Williams, y cyfarwyddwr addysg, ac Eluned Ellis Jones, arolygydd ysgolion cynradd y sir), Undeb Rhieni Ysgolion Cymraeg, 1964-1966 (gan gynnwys llythyrau oddi wrth Cassie Davies), Pwyllgor Cyd-enwadol yr Iaith Gymraeg ac Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, 1964-1966, ac aelodau seneddol, 1964-1965 (llythyrau oddi wrth Denis Howells, Goronwy Roberts a Peter Thomas).
Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr, yn ddiweddarach Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Gymraeg Penmaen-mawr,
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 Bocs 1.
- Alternative Id.(alternative) vtls005427908(alternative) ISYSARCHB22
- Dates of Creation
- 1964-1968.
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Note
Preferred citation: Bocs 1.
Additional Information
Published