Papurau Ymgyrch Ysgol Gymraeg Penmaenmawr,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 YSGOLPEN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844560
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1964-1968 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 0.009 metrau ciwbig (1 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr,1964-1968, yn ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg a'r ymgyrch dros ysgol gynradd Gymraeg, yn cynnwys cofnodion,1964-1968, copi o'r cyfansoddiad, gohebiaeth gyffredinol,1964-1967, a gohebiaeth gyda'r awdurdod lleol, sefydliadau rhieni ac athrawon Cymru, ac Aelodau Seneddol, 1964-1967 = Papers of the Penmaenmawr Welsh Primary School Campaign Committee, 1964-1968, relating to the establishment of a Welsh nursery school and the campaign for a Welsh primary school, comprising minutes, 1964-1968, a copy of the constitution, general correspondence, 1964-1967, and correspondence with the local authority, Welsh parents' and teachers' organisations, and Members of Parliament, 1964-1967.

Administrative / Biographical History

Ffurfiwyd Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr ym Mhenmaen-mawr, sir Gaernarfon, yn 1964. Cafodd ysgol feithrin Gymraeg ei sefydlu yn y pentref yn 1965, ond bu ymgyrch y Pwyllgor i sicrhau ysgol gynradd Gymraeg yn aflwyddiannus. Parhaodd y Pwyllgor gyda'i waith i mewn i'r 1980au, ac yn ddiweddarach cafodd ei adnabod fel Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Gymraeg Penmaen-mawr.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Y Parch. Ioan Wyn Gruffydd,; Chwilog, Gwynedd,; Rhodd,; Awst 1984

Note

Ffurfiwyd Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr ym Mhenmaen-mawr, sir Gaernarfon, yn 1964. Cafodd ysgol feithrin Gymraeg ei sefydlu yn y pentref yn 1965, ond bu ymgyrch y Pwyllgor i sicrhau ysgol gynradd Gymraeg yn aflwyddiannus. Parhaodd y Pwyllgor gyda'i waith i mewn i'r 1980au, ac yn ddiweddarach cafodd ei adnabod fel Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion Ysgol Gymraeg Penmaen-mawr.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1985, t. 70, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Archivist's Note

Ebrill 2003

Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW, Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Mân Restri a Chrynodebau 1985.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Additional Information

Published