Dyddiadur Solomon Williams

This material is held atArchifdy Prifysgol Bangor / Bangor University Archives

  • Reference
    • GB 222 BRYN/7
  • Dates of Creation
    • 1835

Scope and Content

Nodiadau pur lawnion. Darlun byw ryfeddol o fywyd gwlad, ac o dir a drinid gan ffermwr cefnog deallus. Ymhlith myrdd o darawiadau diddorol, fe sylwir ar gludo gro a gwymon y môr, nôl calch o'r Foryd, prynu wyth o fatiau yng Nghaernarfon, hefyd y degwm blith, degymu yr wyn a'r ffair sâl yng Nghaernarfon. Nid â diwrnod heibio heb sylwadau ar y tywydd. Ymddengys ei fod yn mynychu capel Brynaerau yn weddol gyson.

Access Information

Open