Tri llyfr nodiadau Saesneg yn perthyn i'r Parchedig Cornelius Griffiths (1829-1905), hen-hen-dad-cu'r rhoddwr, yn cynnwys darlith ar Martin Luther a ....

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 RHODD 1997.
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls005428243
      (alternative) ISYSARCHB22
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Tri llyfr nodiadau Saesneg yn perthyn i'r Parchedig Cornelius Griffiths (1829-1905), hen-hen-dad-cu'r rhoddwr, yn cynnwys darlith ar Martin Luther a draddodwyd rhwng 1880 a 1894; traethodau diwinyddol ar fedyddio, safonau moesol y Beibl, proffwydoliaeth, y Cyfamod Newydd, Dinistr Jerwsalem, a chrefydd Mahomed a Rhyfel, ynghyd â hanes y llong gyntaf a ddanfonwyd yn 1882 i fyny'r afon Congo gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, yn dwyn y teitl A Momento of the S.S. Peace; a chyfrol yn dwyn enw L. A. Jones gydag adysgrifiadau o gerddi amrywiol; pregethau poblogaidd y Parch. Cornelius Griffiths a fu'n allweddol yn ffurfio Undeb Bedyddwyr Cymru yn y Tabernacl, Caerfyrddin, 1867; ynghyd â'i ddarlith 'Mahomed and Mahometanism' ac anerchiad 'An address delivered from the chair of the Bristol Baptist Association, held at Broadmead, June 17th and 18th, 1895'; pregethau, 1883-7, a draddodwyd gan y Parch. W.J. Henderson yng nghapeli Coventry; papurau'n ymwneud ag un o hynafiaid W.J.G., y Parch. David Rees (1804-85), gan gynnwys teyrngedau, llyfryn Howard Crago, David Rees - a father of union (Victoria, 1985), ynghyd â llythyrau, 1984-7, oddi wrth yr awdur ynglyn ag atgyweirio beddau'r teulu ym mynwent St Kilda, Awstralia; llyfr nodiadau, 1886, y Parch. Elias Davies (1859-1908) yn cynnwys 'Atebion i'r cwestiynau a roddwyd i mi gan Proff. Lewis ar ddydd fy ordeiniad yn Brymbo'; gweithred, 1917, yn ymwneud â morgeisio eiddo yn Heol Cwmgarw, Brynaman; llyfryn gan y Parch. Haydn Davies, The Pound Chapel Llanbister, Radnorshire 1896-1996; a llungopïau allan o gyhoeddiadau'r Bedyddwyr yn ymwneud â chapeli yn ardal Caerdydd a'r Tabernacle, Toxteth. Trosglwyddwyd albwm hynafiad y Parch. W. J. Griffiths, sef Robert Carey Griffiths, a ffotograffau o weinidogion y Bedyddwyr i Adran y Darluniau a'r Mapiau (199700122-3).

Note

Preferred citation: RHODD 1997.

Additional Information

Published