Papurau'r Parch. W. J. Griffiths,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 GRIFFWJ
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004646003
  • Dates of Creation
    • 1880-1991/
  • Name of Creator
  • Physical Description
    • 0.037 metrau ciwbig (3 bocs a llyfr lloffion)

Scope and Content

Papurau amrywiol,1880-1991, a gasglwyd gan y Parch. W. J. Griffiths, yn ymwneud gan mwyaf ag enwad yr Annibynwyr yng Nghymru. Maent yn cynnwys hanes printiedig capel Seion, y Golch, Chwitffordd, sir y Fflint; gohebiaeth a phapurau'n ymwneud â chysylltiad y rhoddwr â'r mudiad dirwestol yng ngogledd Cymru; gohebiaeth a phapurau'n ymwneud â Chyngor Eglwysi Rhyddion Llanelli,1986-1990; amryw ysgrifau diwinyddol ar fedydd, safonau moesol, proffwydoliaeth etc.; llyfrau nodiadau a phregethau'r Parch. Cornelius Griffiths (1829-1905); a phapurau'n ymwneud â'r Parch. David Rees (1804-85) = Miscellaneous papers, 1880-1991, collected by Rev. W. J. Griffiths, relating mainly to the Independent denomination in Wales. They include a printed history of Seion chapel, y Golch, Whitford, Flintshire; correspondence and papers relating to the donor's involvement with the temperance movement in north Wales; correspondence and papers concerning the Council of Free Churches at Llanelli, 1986-1990; various theological essays on baptism, moral standards, prophecy etc.; notebooks and sermons of Rev. Cornelius Griffiths (1829-1905); and papers relating to Rev. David Rees (1804-85).

Administrative / Biographical History

Yr oedd y Parch. W. J. Griffith yn weinidog yr Annibynwyr, gyda gofalaethau yn Aberfan a Llanelli.

Arrangement

Trefnwyd yn ôl dyddiad y rhodd: Mai 1988; Chwefror a Thachwedd 1989; Mai 1995; Awst 1996 a Mawrth 1997.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Y Parch. W. J. Griffith; Rhodd; 1988-1997

Note

Yr oedd y Parch. W. J. Griffith yn weinidog yr Annibynwyr, gyda gofalaethau yn Aberfan a Llanelli.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r catalogau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Mân Restri a Chrynodebau, 1988, t. 23; 1990, t. 38; 1996, t. 23; a 1997, t. 37. Mae'r catalogau ar gael ar lein.

Archivist's Note

Gorffennaf 2006

Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mân Restri a Chrynodebau, 1988, t. 23; 1990, t. 38; 1996, t. 23; a 1997, t. 37.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Related Material

Ceir papurau pellach yn ymwneud â'r Parch. W, J, Griffiths yn NLW Misc Records 345 a NLW Misc Vols 103. Trosglwyddwyd albwm hynafiad W. J. Griffiths, sef Robert Carey Griffiths, a ffotograffau nifer o weinidogion y Bedyddwyr i Adran y Darluniau a Mapiau (199700122-3).

Additional Information

Published