A. Llythyrau oddi wrth Samuel Jones at ei wraig pan oedd yn ceisio iechyd yn y wlad o dro i dro. Sôn am ofalon teulu, gan mwyaf
B. Llythyrau oddi wrth Samuel Jones at ei dad Robert Jones. Ei flynyddoedd cyntaf yn Lerpwl - trafferthion y byd, disgrifiadau pur fyw o fywyd crefyddol yn y dref
C. Llythyrau oddi wrth Robert Jones at ei fab Samuel. Llythyrau'n llawn o wybodaeth bwysig am gyflwr crefydd yn Lleyn a rhannau o Eifionydd chwarter cyntaf y ganrif. Blynyddoedd llesgedd a henaint Robert Jones oedd y rhain; golwg go brudd a rydd ar bethau; sieryd braidd ormod am ochr negyddol bywyd crefyddwr. Er enghraifft, dyma ddiarddel Evan Benjamin o'r Society am ladrad a'i garcharu yng Nghaernarfon, yr un Evan Benjamin a ysgrifennodd y ddau lythyr tra chrefyddol a welir yn nechrau Llawysgrif Wheldon 2; Gruffydd Solomon yn pechu gyda'r ddiod ym Mhlas Tryfan, ar ôl yr holl garedigrwydd a ddangoswyd ato gan y Cyfarfod Misol; y sylwadau am wraig o Edern, ac am glochydd Llandudwen. Amheuthun i'r hen wron oedd adrodd am aelodau newydd yn y Soicety ac am swn diwygiadau mewn gwahanol rannau o'r wlad. Flwyddyn cyn ei farw, disgrifiai allu'r efengyl yn lladd gwylmabsant y Bontnewydd.
Dylid darllen y llythyrau yn fanwl i ddod ar draws sylwadau megis, cyngor manwl i wella'r cryd-cymalau, pennill crafog ar briodas William Parry, gwerinos Lleyn yn rhuthro am y cyntaf i ladrata nwyddau a olchwyd i'r lan drwy i long fawr o Greenock fynd yn ddrylliau ar fanciau Wicklow (Ionawr 1825). Gweler Robert Jones yn llunio englynion beddargraff ac yn nodi pa un oedd fwyaf gweddus i'w gerfio ar ei fedd ei hun. Mae llythyr 19 yn trafod pregethwyr pechadurus.