Ymddengys mai ei fab John a brynodd y llyfr hwn a llanw ei gyhoeddiadau Sabothol ynddo hyd tua diwedd Mehefin. Ar y diwedd gwnaeth yr un gwr restr o deithiau Sabothol Sir Flint ynghyd ac enw pregethwr ar gyfer pob taith. Yna cafodd ei dad afael arno, ac aeth ati i'w lanw yn ei ffordd ef ei hun. Llawer o'r dyddiadur hwn mewn script bechadurus o fan, anhawdd ei ddarllen. Dyma'r dyddiadur olaf. Bu farw yn Ionawr 1840.
Sôn am ymweliad eto â thref Lerpwl; bwyta eog ac yfed te gyda chyfeillion. Ymhellach ymlaen yn y flwyddyn daeth Moses Parry adre o'r America a thua terfyn mis Medi dyma John Elias a'i wraig yn dod yn annisgwyliadwy i Ddinbych. Deil ei ddiddordeb hyd y diwedd yn eang ac amrywiol ryfeddol. Sylwodd ar bobl Cymdeithas Genhadol Llundain yn cadw eu cwrdd yng nghapel yr annibynwyr yn Swan Lane. Sôn am frawd barus yn dwyn agoriad Capel Swan Lane er mwyn rhwystro Robin Ddu i siarad ar ddirwest yno a gorfod mynd i'r Capel Canol.
Mae afiechyd ei ferch Jane, y darfodedigaeth yn gwmwl mawr ond ceir yr argoel cyntaf o'i salwch ef ar Dachwedd 13. Bu farw 21 Ionawr 1840.