Llythyrau a chylch-lythyrau ynghylch sefydlu Greal y Bedyddwyr (Awst-Medi, 1826; ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar Ionawr 1af, 1827)

Scope and Content

Yn gyntaf, gwelir llythyr gol. Seren Gomer, y Parch. D.D. Evans (Awst, 1826) at John Thomas, Fferyllydd, Machynlleth, yn gresynnu at y bwriad, yn dangos y golled i'r Seren a fyddai'r cyhoeddiad newydd, ac yn ymgroesi rhag ymyriad anffodus y prif hyrwyddwr, sef y Parch, John Herring Aberteifi (td. 1-5). Yna daw prospectus y Greal (6-9); enwau tua 31 o "ddirprwywyr" (10), gydag enw Herring, yn ostyngedig iawn, yn dal y gynffon; nifer o roddion at yr amcan a dderbyniodd yr un gwr yn y Gymanfa Dde-ddwyreiniol; a llythyr yn pwysleisio'r mudiad newydd gan wyth o "oruchwylwyr" (12-15). Gwelir cyfeiriad at y symudiad newydd, a sôn am y teimladau drwg o'r herwydd, yn llythyr Simon James, gynt o Dalybont (Bangor 1514(4)); yn wir ei enw ef yw y pedwerydd ymhlith y "dirprwywyr" (10). Copiau yw'r llythyrau, & c. hyn o'r gwreiddiol sydd ym meddiant Mr. John Thomas, Chemist, Machynlleth, disgynnydd o John Thomas 1826, copiau a wnaed yn garedig iawn gan Mr. J.D.Davies, Blaenau Ffestiniog.