Papurau Cynan

Scope and Content

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau yn ymwneud â'r bardd, Cynan, yn bennaf, ond ceir hefyd rhai eitemau sy'n perthyn yn uniongyrchol i Dr Emyr ap Cynan, Mona Mostyn ei wraig a'i theulu hithau (a ddeuai o gyffiniau Amlwch).

Administrative / Biographical History

Roedd Albert Evans Jones (1895-1970), Cynan, yn fardd gyda chysylltiadau cryf â'r Eisteddfod Genedlaethol. Fel cystadleuydd, enillodd y goron deirgwaith a'r gadair unwaith, ac fel Archdderwydd (ddwywaith) daeth yn adnabyddus am foderneiddio'r Eisteddfod Genedlaethol gan greu a datblygu'r prif seremonïau. Adwaenir ef hefyd fel brenhinwr a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr arwisgiad yn 1969 ac fe adlewyrchir hyn yn y casgliad yma.

Priododd Cynan ddwywaith - yn 1921 ag Ellen J. Jones o Bwllheli (cawsant fab a merch) ac yn 1963 â Menna Meirion Jones o Y Fali, Ynys Môn.

Roedd ei fab, Emyr ap Cynan, yn feddyg yng Nghaergybi a briododd â Mona Mostyn. Roedd eu mab hwythau, Robin ap Cynan (1950-2015), yn gyfreithiwr blaenllaw.

Arrangement

Oherwydd diffyg trefn y papurau pan ddaethant i'r adran, penderfynwyd y byddai'n fuddiol rhannu'r casgliad yn wahanol adrannau - o ran pwnc neu natur y dogfennau. Gobeithio y bydd hyn yn hwyluso gwaith yr ymchwilydd.

Access Information

Open

Open to all users

Acquisition Information

Prynwyd y casgliad yma o bapurau yn 2016 oddi wrth ysgutorion ewyllys Robin ap Cynan - ŵyr i Cynan a mab Dr Emyr ap Cynan. Talwyd amdanynt ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau.

Conditions Governing Use

Usual copyright conditions apply. Reprographics made at the discretion of the archivist.