Storiau yn llaw Robert Morris

Scope and Content

i. Priodas Belphegor a gyfieithwyd o'r Italaeg; a scrifenwyd yn'r Iaith hono gan Nicholas Machiavel un o'r gwyr hynotaf yn ei Amser

[Tudalen anghyflawn]

ii. Ystori Ddameg

Yn amser y brenin Samoth y Ser daeth saith o Arglwyddi ynys Prydain ynghyd yng Nghaer Idris ym Môn. Areithiodd Caswallon mai'r ser oedd fwya hynod yn y greadigaeth ac fe ganiatawyd i dri gwr dysgedig fynd am dridiau i'r lleuad lle cawsant groeso cynnes. Dychwelasant heb ddim i'w adrodd am y rhyfeddodau a welsant ac o ganlyniad cawsant eu bwrw tros y Fenai a'u diarddel o Fôn - y cerydd mwyaf i wyr dysgedig yn nyddiau Samwth Ser. Mae'r tridiau ar y lleuad yn arwyddocâd o hoedl dyn : ei Fabiaeth; canol oed; henaint. Y rhain a ant heibio heb gael amser gan y pleserau, gwegni a bydol helyntion i graffu ar ryfeddodau'r greadigaeth