Papurau John Morris-Jones

Scope and Content

Ceir yma gasgliad o ohebiaeth sy'n adlewyrchu bywyd academaidd, bywyd cymdeithasol a bywyd personol John Morris-Jones, o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd chwarter cyntaf yr ugeinfed. Mae deuparth yr ohebiaeth yn cynnwys llythyrau rhyngo â Mary Morris-Jones (ne Mary Hughes), yng nghyfnod eu carwriaeth. Ceir yma ganiadau serch, a rhai darluniadol, yn ogystal ag adroddiad o helyntion cyfeillion ym Môn, Aberystwyth, a Rhydychen.

Mae llythyrau ar ffurf rhigwm at ffigwr amlwg arall yn dadeni llenyddol dechrau'r ugeinfed ganrif, ei gyfoeswr, a chyd-fyfyriwr, Owen Morgan Edwards. Ceir yma olwg ar yr agwedd gystadleuol, gyfeillgar, rhyngddynt, wrth iddynt gymharu cariadon, a'u bröydd. Trwy'r llythyron, a'r casgliad pellach o bapurau teuluol, ehangir ymhellach ar y cyfle i ddod i adnabod y person tu ôl i'r academydd.

Er bod rhan helaeth o'r casgliad yn ymwneud a'i fywyd personol, a theuluol, mae yn y casgliad, hefyd, ddeunydd yn ymwneud a'i fywyd academaidd, megis yr ohebiaeth â chyhoeddwyr ac ysgolheigion. Mae cryn ddeunydd ar waith y Cynfeirdd a'r Cywyddwyr, gan gynnwys trawsgrifiadau a thraethodau gan John Morris-Jones; llyfrau gan eraill fu'n eiddo i John Morris-Jones; a llythyrau gan John Gwenogvryn Evans sy'n cyffwrdd ar yr anghytuno bu rhwng y ddau ysgolhaig ynghylch tarddiad llyfr Taliesin. Ceir hefyd broflenni, a llyfrau nodiadau, ar gyfer rhai o'i gyhoeddiadau mwyaf blaenllaw, gan gynnwys: Caniadau (1907); Welsh Grammar (1913); a Cerdd Dafod (1925).

Cydnabyddir fod i John Morris-Jones ran allweddol yn y dadeni llenyddol a welwyd yng Nghymru ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Mae tystysgrifau er anrhydedd, a llythyrau gan y prif weinidog David Lloyd George ar gyfrif ei urddo'n farchog, yn brawf o'r gydnabyddiaeth hynny. Ceir cryn dipyn o lythyrau cydymdeimlo ar achlysur marw John Morris-Jones (1929), yn ogystal, gyda nifer o deyrngedau iddo gan academyddion, megis yr Athro John Lloyd Jones a'r Athro Ifor Williams.

Administrative / Biographical History

John Morris-Jones: gramadegydd Cymraeg, ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol. g. John Jones (yn ddiweddarach Morris-Jones) yn Llandrygarn, Môn, (17 Hydref 1864), mab hynaf i'r perchennog siop, Morris Jones, a'i wraig Elizabeth Jones. Symudodd y teulu i Lanfairpwll, Môn, ym 1868. Bu dderbyn ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor (1876), gan ddilyn ei athro, D. Lewis Lloyd, rhagddi i Ysgol Aberhonddu (1879). Wedi derbyn ysgoloriaeth, aeth ymlaen i ennill gradd mewn Mathemateg (1887), wedi pedair blynedd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Tra yno, bu'n gyd-sylfaenydd ar Gymdeithas Dafydd ap Gwilym (1886), a fu'n fforwm allweddol wrth ddechrau rhoi trefn ar orgraff yr iaith Gymraeg, dan gyfarwyddyd ei ddarlithydd, Syr John Rh?s.

Ym 1889, penodwyd Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, gan ennill cadair Athro, y gyntaf yn y Gymraeg, ym 1895. Cafodd LL.D. er anrhydedd gan Brifysgol Glasgow, ym 1919; a D.Litt. gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, ym 1927. Fe'i hurddwyd yn farchog ym 1918.

Ymysg ei waith academaidd mwyaf cyfarwydd, mae: Caniadau (1907); A Welsh Grammar, Historical and Comparative (1913); Cerdd Dafod (1925); Orgraff yr Iaith Gymraeg (1928); ac astudiaeth anorffenedig o gystrawen y Gymraeg, a gyhoeddwyd dan y teitl Welsh Syntax (1931). Bu, hefyd, yn sylfaenydd a golygydd y cylchgrawn llenyddol, Y Beirniad, a gyhoeddwyd rhwng 1911 ac 1919.

Priododd â Mary Hughes, Siglan, Llanfair, ym 1897; a chawsant bedair merch- Rhiannon, Gwenllïan, Angharad, a Nêst Morris-Jones. Bu f. ym Mangor, 16 Ebrill 1929.

Access Information

Open to all users