Llyfr nodiadau yn cynnwys

Scope and Content

Ochr A

(a) Cofnodion Cymdeithasfa Bangor, 5-7 Medi 1853, tt.1-26

(b) Cofnodion Cymdeithasfa Treffynnon, Rhagfyr 1853, tt.27-76

Ochr B - Copiau o lythyrau anfonwyd gan y Parch. Roger Edwards fel ysgrifenydd y Gymdeithasfa

(a) at y Parch. Cadwaladr Williams, Llywydd Cyfarfod Misol Môn (Rhagfyr 1841). Protest bwyllog yn erbyn gwaith C.M. Môn yn bygwth ymwahanu oddi wrth eu brodyr yn y siroedd eraill ar fater y Ddwy Athrofa (Bala a Threfecca), tt. 9-13

(b) at David Charles Ysw., Caerfyrddin, 13 Mehefin 1842). Llythyr at "Gyfeisteddfod Athrofa Trefecca". Caniatâd i'r cyfeisteddfod ohebu a'r Parch. David Charles (un o athrawon Athrofa'r Bala) gyda'r pwrpas iddo syud i Drefecca, tt. 14-15

(c) to the "Managers of the Welsh Chapel, Jewin Crescent, Aldersgate Street, London", 13 Mehefin 1842. Ellis Phillips o Wrecsam yn dod i bregethu i Lundain am dymor yr Hydref; anallu Roger Edwards i ddod; apel am gymorth ariannol o Lundain i gynorthwyo y Genhadaeth Gartrefol yn Birmingham a Bilston. tt. 16-17

(d) at y Parch. D. Morgan, Trallwm, 13 Mehefin 1842. Morgan yn awyddus am fynd fel canhadwr i Lydaw. Bwrdd y Gymdeithasfa yn methu a'i gymeradwyo - "am eu bod yn ystyried eich oedran, eich teulu, eich arferion bywyd"; cyngor iddo i ddal ymlaen gyda'r gwaith da ar y Goror, t.18

(e) at y Parch. William Hughes, 13 Mehefin 1842. Cais ar iddo wasanaethu'r achos yn Nulyn am dymor nid llai na hanner blwyddyn. Rhaid oedd cael gwr yn hyddysg yn y ddwy iaith.

Access Information

Open