Llyfr yn cofnodi hanes porthmona a chadw fferm

Scope and Content

Enw Richard Roberts y Castell sydd ar A, t.1, ond nid ei law ef yw honno. Yn wir, os gellir bod yn weddol sicr mai ei waith ef yw'r rhan fwyaf o'r llawysgrif; gwelir ôl amryw ysgrifennwyr eraill.

Hanes porthmonna a chadw fferm sydd yma , o 1825 i 1836. Nid oes ddadl am ei bwysigrwydd fel darlun byw o drafferthion a phrysurdeb ffermwr yn y cyfnod trafferthus hwnnw. Dwy ochr iddo, A, a B.

A. tt. 1-95 Am yr wyth mlynedd cyntaf yr oedd Richard a'i frodyr Samson a Daniel (os nad William hefyd) yn byw gyda'i gilydd yn yr hen gartref - llawer cyfeiriad at frethyn, clos, getars a dilladau eraill yn y "taliadau allan" drostynt. Termau gwledig cartrefol am offer fferm. Manylion am gyflogau'r gweision a'r morwynion, am y rhent, y dreth dlodi a'r degwm; talu rheolaidd at Gymdeithas Adeiladu Pentir, at seti'r capel, at y Feibl Gymdeithas a'r Missionari. Ar t.57 telir coron am "lyfr ar amseryddiaeth" a chymaint a 14/- am 'bapur newyddion' (hyn ar y 14 o Dachwedd, 1829, t. 62).

B. tt. 1-15 Taliadau yn ystod 1825 a 1826 (tt. 1-2) nid hawdd iawn eu deall. Cowntiau porthmon sydd yn B, 10-15 yn ogystal ag A, 14-29. Aml gyfeiriadau at ffeiriau Aber, Talycafn, Llanrwst, Cerrig y Drudion a Llanfair (Pwllgwyngyll?).