Women's Archive of Wales/Archif Menywod Cymru: Merched y Wawr: Cofnodion Rhanbarth Gorllewin Morgannwg

Scope and Content

Cofnodion cyfarfodydd rhanbarthol, 1979-2016; cofnodion eraill, 1969-1994

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd mudiad Merched y Wawr gan ferched o bentre'r Parc ger Y Bala, Meirionnydd, ym 1967. Ceir peth o hanes y sefydlu a'r datblygu yn Perlau'r Wawr gan Marged Jones.

Yn 1970 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, yng Ngwesty'r Castell, Castell-nedd. Yn bresennol yr oedd cynrychiolwyr o genghennau Lon-las, Castell-nedd, Glyn-nedd, Gorseinon, Treboeth, Cwmrhydyceirw, Abertawe, Maesteg a Phen-y-bont ar Ogwr. Daeth Marged Jones yn westai i'r cyfarfod fel cynrychiolydd y mudiad yn genedlaethol.

Sylvia Rees, Lon-las, oedd y Llywydd Rhanbarth cyntaf a Wendy Richards, Castell-nedd yn Ysgrifennydd Rhanbarth cyntaf. Yn ol Malvina Ley, Ysgrifenydd Cangen Lon-las (a Swyddog Datblygu'r Rhanbarth yn ddiweddarach), bu cyfraniad Wendy Richards a Morina Roberts yn allweddol yn y dyddiau cynnar hyn.

Yn anffodus, collwyd y cofnodion cynnar, a dim ond rheini o 1979 ymlaen sy'n goroesi.

Access Information

No restrictions

Other Finding Aids

A hard copy is available at the West Glamorgan Archive Service

Conditions Governing Use

Usual copyright regulations apply.

Appraisal Information

All records received by the West Glamorgan Archive Service have been retained

Accruals

Accruals are possible.