Wheldon Manuscripts

Scope and Content

Casgliad o 59 o eitemau sy'n cynnwys papurau Robert Jones o Ros-lan a'i feibion, Samuel a Daniel. Ymysg y papurau ceir llythyrau oddi wrth Robert Jones at Samuel, 1808-1829 ac at Robert Jones oddi wrth Samuel a Daniel, 1792-1825. Mae yma ddyddiaduron a llyfrau nodiadau. Hefyd, nodiadau pregethau Y Parch. John Jones o Wrecsam.

A collection of 59 items comprising the papers of Robert Jones of Rhos-lan and his sons Samuel and Daniel, including letters from Robert Jones to Samuel, 1808-1829, and to Robert Jones from Samuel and Daniel, 1792-1825; diaries and memoranda books of Daniel Jones, 1828-1839; memoranda books of Samuel Jones, 1833-1860; and sermon notebooks of the Rev. John Jones of Wrexham (youngest son of Daniel Jones), 1829-1850.

Administrative / Biographical History

Ganed Robert Jones ar 13 Ionawr 1745. Roedd yn fab i John a Margaret Williams o Suntur, Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Dysgodd ei fam ef sut i ddarllen a mynychodd un o ysgolion cylchynol Griffith Jones. Daeth yn athro a pherswadiodd Bridget Bevan i ail-agor ysgolion cylchynol. Dysgodd yn Llangybi (1766), Beddgelert (1767), Capel Curig (1768), Rhuddlan (1769), Brynsiencyn (1770), Llangybi (1772-1773) a Brynengan (1778). Ym 1768 cychwynnodd gefnogi'r Methodistiaid Calfinaidd ac roedd yn ffigwr amlwg yn pregethu drwy'r wlad.

Priododd Robert Jones â Magdalen Prichard yn Llanfihangel-y-Pennant ar yr 2 Tachwedd 1772. Buont yn rhentu ty o'r enw Tir Bach, Rhos-lan, ac yno adeiladodd Robert Jones adeilad a oedd yn ddigon mawr i gael ei ddefnyddio yn rhannol fel capel. Wedi i'r cytundeb ddod i ben, symudodd i fyw i Ty Bwlcyn ger Dinas.

Mae hanes eu pedwar o blant hefyd yn hysbys. Aeth Daniel i Lerpwl fel dilledydd ac roedd hefyd yn pregethu. Bu farw ar 21 Ionawr 1840. Priododd Mary â Richard Jones o Ty Bwlcyn a daeth yn fam i Magdalen Jones o'r Waun Fawr a ysgrifennodd Rhodd Nain. Priododd Hannah Richard Owen o Meillionen, Ceidio a sefydlodd rhai o'u disgynyddion yn America. Yn olaf, aeth Sameul i Lerpwl, lle'r oedd yn flaenor amlwg ymysg y Methodistiaid.

Cyhoeddodd Robert Jones nifer o weithiau. "Lleferydd yr Asyn", " Drych yr Anllythrennog", 1778, "Grawnsypiau Canaan", 1795, and "Drych yr Amseroedd", 1820, a oedd yn ddisgrifiad o'r diwygiad Methodistaidd yng Nghymru a'i effeithiau. Y llyfr hwn oedd ei gampwaith.

Bu fawr ar 18 Ebrill 1829 a chafodd ei gladdu ym mynwent Llaniestyn.

Robert Jones was a Calvinistic exhorter and author. He was born on 13 January 1745, and was the son of John and Margaret Williams of Suntur, Llanystumdwy, Caernarfonshire. His mother taught him to read, and he also attended one of Griffith Jones's circulating schools. He became a schoolteacher and persuaded Bridget Bevan to reopen the circulating schools. He taught at Llangybi (1766), Beddgelert (1767), Capel Curig (1768), Rhuddlan (1769), Brynsiencyn (1770), Llangybi (1772-1773) and Brynengan (1778). In 1768 he began to exhort among the Calvinistic Methodists and became a prominent figure in their assemblies. He preached throughout North and South Wales.

Robert Jones married Magdalen Prichard at Llanfihangel-y-Pennant, on November 2, 1772. They leased a cottage known as Tir Bach, Rhos-lan, and there Robert Jones built a building that was large enough to be used, in part, as a chapel and where he gathered around him a strong Methodist society. After the lease had expired they moved to live at Ty Bwlcyn, near Dinas, Lleyn. The history of four of their children is known. Daniel became a Liverpool draper and Methodist preacher. Daniel Jones died on 21 January 1840. Mary married Richard Jones of Ty Bwlcyn and became the mother of Magdalen Jones of Waun Fawr, who wrote Rhodd Nain. Hannah married Richard Owen of Meillionen, Ceidio, whose descendants are to be found in Lleyn and the U.S.A. And finally, Samuel, who went to Liverpool where, for a very long time, he was one of the most prominent Methodist elders.

Robert Jones published many works, in 1770, Lleferydd yr Asyn, which was a defence of the Methodists against their persecutors; Drych yr Anllythrennog, 1778, which was a Welsh spelling primer; Grawnsypiau Canaan, 1795, which was a collection of hymns, and the first hymn-book used by the Calvinistic Methodists in North Wales; and finally Drych yr Amseroedd, 1820, which was a description of the Methodist Revival in Wales and its effects. This last book was his masterpiece. Robert Jones was also involved in preventing Thomas Charles from leaving Wales in 1784 and also in persuading him to agree to the ordination of Methodist preachers as ministers in 1811.

He died on 18 April 1829 and was buried in Llaniestyn churchyard.

Access Information

Open to all users

Custodial History

Presented by Sir Wyn Wheldon, hence the name of the collection. The further addenda was also presented by him in September 1956.