Cofysgrifau Eglwys Bethel, Tanygrisiau, Sir Feirionnydd, 1837-1960, yn cynnwys cofrestri eglwysig a chofrestr y Gymdeithas Ddirwestol, llyfrau casgliadau ariannol tuag at y Weinidogaeth, a llyfrau'r trysorydd, ynghyd â phapurau'n ymwneud ag adeilad ac eiddo y capel, ystadegau, papurau'n ymwneud ag elusen Robert Roberts, a ffotograffau. Derbyniwyd cofysgrifau ychwanegol, Mehefin 2010, gan gynnwys llyfr casgliadau, 2004-2008, llyfr cyfrifon, 1944-1958 a phapurau rhydd.
CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Tanygrisiau
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 BETTAN
- Alternative Id.(alternative) vtls004323778(alternative) (WlAbNL)0000323778
- Dates of Creation
- 1837-2008 /
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg oni nodir yn wahanol.
- Physical Description
- 3 bocs & 1 bocs bychan; 0.095 metrau ciwbig.
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Agorwyd Capel Bethel, Tanygrisiau yn 1838. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 36. Erbyn 1840 roedd y nifer wedi codi i 100 ac roedd y capel cyntaf bellach yn rhy fach. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail gapel yn 1840 ac fe'i agorwyd yn 1841. Yn 1864 adeiladwyd trydydd capel mwy o faint, a'r flwyddyn ddilynol adeiladwyd Tŷ'r Capel. Cafwyd ychwaneg o newidiadau i'r capel, sef gosod galeri yn 1870, tŷ newydd i'r Gweinidog yn 1896 ac adeiladu festri yn 1906, a agorwyd yn 1907.
Arrangement
Trefnwyd yr archif yn LlGC yn chwe chyfres: elusen Robert Roberts; cyfrifon; adeilad ac eiddo; cofrestri; papurau gweinyddol; a ffotograffau ac anerchiad.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Y Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, a Mr Geraint Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth; Adnau; Mawrth 2004 & Mehefin 2010; 0200403112.
Note
Agorwyd Capel Bethel, Tanygrisiau yn 1838. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 36. Erbyn 1840 roedd y nifer wedi codi i 100 ac roedd y capel cyntaf bellach yn rhy fach. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail gapel yn 1840 ac fe'i agorwyd yn 1841. Yn 1864 adeiladwyd trydydd capel mwy o faint, a'r flwyddyn ddilynol adeiladwyd Tŷ'r Capel. Cafwyd ychwaneg o newidiadau i'r capel, sef gosod galeri yn 1870, tŷ newydd i'r Gweinidog yn 1896 ac adeiladu festri yn 1906, a agorwyd yn 1907.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Archivist's Note
Medi 2005.
Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd.
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Canrif o hanes: sef hanes yr achos Methodistaidd yn Nhanygrisiau, 1809-1909 gan David O. Hughes (Blaenau Festiniog, [1909?]);
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..
Additional Information
Published