• Reference
    • GB 222 CYM
  • Dates of Creation
    • 1995-1999
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh
  • Physical Description
    • 535 items

Scope and Content

Cyfres deledu gan Ffilmiau'r Bont i S4C oedd Cymru 2000 ac a gyflwynwyd gan Merfyn Jones. Roedd yr 13 o raglenni yn olrhain hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif ac yn cynnwys 200 o gyfweliadau gydag enwogion yn hanes diweddar Cymru.

Cafwyd llyfr o'r un enw "Cymru 2000 : hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif " gan R. Merfyn Jones (Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 1999) i gyd-fynd â'r gyfres ac fe dderbyniodd y cynhyrchiad wobr BAFTA Cymru am "gyfraniad pwysig tuag at hanes ar y teledu".

Dyma gasgliad o adysgrifiadau o'r cyfweliadau a gynhaliwyd ar gyfer Cymru 2000. Fe ymddengys iddynt gael eu recordio rhwng Ebrill 1995 a Medi 1999. Ceir yma gyfweliadau gyda gwyr a gwragedd a oedd yn amlwg yn y byd gwleidyddol a llenyddol, yn y meysydd darlledu, cerddoriaeth a chwaraeon ac a gafodd ddylanwad, boed fawr neu fach, ar Gymru yn yr ugeinfed ganrif.

Cymru 2000 was a television series produced by Ffilmiau'r Bont for S4C and presented by Merfyn Jones. The 13 programmes traced the history of Wales during the 20th century and included around 200 interviews with notable Welshmen and women.

A book was also published under the title "Cymru 2000 : hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif" by Merfyn Jones (Cardiff : University of Wales Press, 1999) to complement the series and the production received a BAFTA Wales award for "important contribution towards history on the television"

Here is a collection of transcripts of the interviews conducted for Cymru 2000. It appears that they were recorded between April 1995 and September 1999.

Amongst the interviewees were men and women prominent in politics, literature, broadcasting, music, sport, and who had an influence, large or small, on Wales in the 20th century.

Access Information

Open to all users