Papurau Gwyl Fawr Aberteifi,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Scope and Content

Llyfrau cofnodion y Pwyllgor Gwaith a'r Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, 1952-1984; amrywiol lyfrau nodiadau a chofrestri yn ymwneud â phwyllgorau a chystadleuwyr yr eisteddfod, 1955-1990; llythyrau a dderbyniwyd gan O.M.Owen, yn bennaf oddi wrth Syr David James ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, 1958-1990; copïau carbon o lythyrau a anfonwyd ganddo,1955-1990; torion o'r wasg, 1954-1988; deunydd printiedig yn cynnwys rhestri cystadlaethau, rhaglenni'r eisteddfod a Pigion Eisteddfod Aberteifi, 1953-1990; lluniau,1905-1976; a phosteri, 1953-1990 = Minute books of the Executive Committee and Annual General Meetings, 1952-1984; various notebooks and registers relating to committees and to eisteddfod competitors, 1955-1990; letters received by O. M. Owen, mainly from Sir David James concerning the Pantyfedwen Trust, 1958-1990; carbon copies of letters sent by him, 1955-1990; press cuttings, 1954-1988; printed material including competition lists, eisteddfod programmes and Pigion Eisteddfod Aberteifi, 1953-1990; photographs, 1905-1976; and posters, 1953-1990.

Administrative / Biographical History

Cynhaliwyd Gŵyl Fawr Aberteifi, a alwyd yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi, am tro cyntaf yn Aberteifi yn 1953. Mae'n ŵyl ddiwylliannol ac eisteddfod flynyddol, a gynhelir ar ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden y dref. Yn ogystal â dau ddiwrnod o gystadlu a chadeirio'r bardd ceir sioe adloniant ysgafn a chyngerdd. Bu Owen M. Owen yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gerdd, 1953-1955 ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr Ŵyl, 1955-1990. Ceir cymorth Ymddiriedolaeth Pantyfedwen gyda chynnal yr ŵyl.

Arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau gweinyddol; gohebiaeth; deunydd printiedig; lluniau; posteri; ac amrywiol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mrs O. M. Owen, gweddw'r ysgrifennydd (Owen M. Owen); Aberteifi; Rhodd; 1991
Pwyllgor Gwaith, trwy law Mrs O.M. Owen; Rhodd; 1991

Note

Cynhaliwyd Gŵyl Fawr Aberteifi, a alwyd yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi, am tro cyntaf yn Aberteifi yn 1953. Mae'n ŵyl ddiwylliannol ac eisteddfod flynyddol, a gynhelir ar ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden y dref. Yn ogystal â dau ddiwrnod o gystadlu a chadeirio'r bardd ceir sioe adloniant ysgafn a chyngerdd. Bu Owen M. Owen yn Ysgrifennydd y Pwyllgor Gerdd, 1953-1955 ac Ysgrifennydd Cyffredinol yr Ŵyl, 1955-1990. Ceir cymorth Ymddiriedolaeth Pantyfedwen gyda chynnal yr ŵyl.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae dau lun yn rhagddyddio ffurfio'r ŵyl.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau, 1992, tt. 46-48, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Archivist's Note

Mehefin 2003.

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1992;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol .

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Custodial History

Crynhowyd y papurau gan Owen M. Owen, MBE.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

Related Material

Mae 58 tâp sain, yn cynnwys yn bennaf recordiau o'r Eisteddfodau a chyngherddau, 1960-1986, ar gadw yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Additional Information

Published