Dyma gasgliad o ffeiliau o bapurau sy'n taflu goleuni ar yr agweddau amrywiol o fywyd a gwaith R. Tudur Jones. Ceir yma ohebiaeth, ffurflenni cais a phapurau ariannol yn ymwneud â Choleg Bala-Bangor a'i Hostel, gohebiaeth bersonol, erthyglau ac anerchiadau hanesyddol a diwinyddol, taflenni a gohebiaeth yn ymwneud â Phlaid Cymru etc.
Yn eu mysg hefyd ceir papurau unigolion a hyd yn oed capeli a ddaeth i law R. Tudur Jones yn ystod ei yrfa. Mae yma gofnodion Eglwys Annibynnol Treflys, Bethesda, dyddiaduron Dr Thomas Rees (1869-1926) a'r Parch. David Rees, Capel Mawr a phapurau a phregethau y Parch. William Glyndwr Howells (1917-1971).
Dyma grynodeb yn unig. Er mwyn gwneud tegwch â'r casgliad, rhaid ymgynghori'n fanwl â'r papurau eu hunain.