CMA: Cofysgrifau Capel Penuel, Ferndale,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 FERNDALE
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004575082
  • Dates of Creation
    • 1902-2003 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 2 focs (0.058 metrau ciwbig)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Cofysgrifau Capel Penuel, Ferndale, yn cynnwys cyfrifon, 1908-1975; cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth gyda rhestri aelodaeth, 1929-2003; rhestr o aelodau ac athrawon yr Ysgol Sul, 1902-1910, a chyfrol yn nodi cyfrif yr Eisteddleoedd, 1905-1959.

Administrative / Biographical History

Adeiladwyd Capel Penuel, Ferndale, yn 1878, gydag estyniad yn 1904. Roedd y Capel yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth y Rhondda). Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ôl 2003.

Arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn ddwy gyfres, sef cyfrifon a chyfraniadau at y Weinidogaeth, ac yn ddwy ffeil: rhestr o aelodau ac athrawon yr Ysgol Sul, a chyfrol yn nodi cyfrif yr Eisteddleoedd.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen `Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Acquisition Information

Y Parch J. E. Wynne Davies; Aberystwyth; Adnau; Medi 2005; 0200512636.

Note

Adeiladwyd Capel Penuel, Ferndale, yn 1878, gydag estyniad yn 1904. Roedd y Capel yn perthyn i Henaduriaeth Dwyrain Morgannwg (Dosbarth y Rhondda). Ni restrir y Capel ym Mlwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ôl 2003.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Archivist's Note

Medi 2008.

Lluniwyd y disgrifiad gan Teresa Cody. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cronfa Ddata Capeli LlGC; John Lodwick Evans, Hanes Eglwys Penuel M.C., Ferndale, 1878-1928 [1961];

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir llyfrau cofnodion a phapurau eraill yn ymwneud â Chapel Penuel, Ferndale, 1910-1986, yn CMA EZ1/250; cofrestri priodasau, 1945-1981, yn CMA OZ/13, ac adroddiadau blynyddol, 1936, 1938, 1947 a 1961, y cyfan yn LlGC.

Additional Information

Published