Papurau Rhiannon Davies Jones

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 RHIDAVES
  • Alternative Id.
      (alternative) 992347811102419
  • Dates of Creation
    • 1878, 1912-2014
  • Name of Creator
  • Physical Description
    • 3 bocs bach (0.027 metrau ciwbig)

Scope and Content

Papurau llenyddol a theuluol Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (gyda bylchau), yn cynnwys barddoniaeth, ei thraethawd MA, ysgrifau, ffotograffau, llyfrau ymwelwyr a phapurau amrywiol. = Literary and family papers of Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (with gaps), her MA thesis, articles, photographs, visitor books and miscellaneous papers.

Administrative / Biographical History

Yr oedd Rhiannon Davies Jones yn nofelydd hanesyddol. Fe’i ganwyd ar 3 Tachwedd 1921 yn Llanbedr, Sir Feirionydd. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor a bu’n athrawes cyn mynd i ddarlithio yng Ngholeg Caerllion ac wedyn yn y Coleg Normal ym Mangor lle arhosodd tan ei hymddeoliad. Enillodd y Fedal Ryddiaith ddwywaith - am ei nofel Fy hen lyfr cownt yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 ac am Lleian Llanllŷr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964. Ysgrifennodd ddeg o nofelau hanesyddol. Bu farw ar 22 Hydref 2014.

Arrangement

Trefnwyd yn ddwy gyfres yn LlGC: papurau llenyddol a phapurau teuluol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Acquisition Information

Anna Wyn Jones a Lisbeth James; Rhodd; Mehefin 2017; 992347811102419

Note

Yr oedd Rhiannon Davies Jones yn nofelydd hanesyddol. Fe’i ganwyd ar 3 Tachwedd 1921 yn Llanbedr, Sir Feirionydd. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Bangor a bu’n athrawes cyn mynd i ddarlithio yng Ngholeg Caerllion ac wedyn yn y Coleg Normal ym Mangor lle arhosodd tan ei hymddeoliad. Enillodd y Fedal Ryddiaith ddwywaith - am ei nofel Fy hen lyfr cownt yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 ac am Lleian Llanllŷr yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1964. Ysgrifennodd ddeg o nofelau hanesyddol. Bu farw ar 22 Hydref 2014.

Archivist's Note

Lluniwyd gan Ann Francis Evans. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Meic Stephens (gol.), Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997), Y Bywgraffiadur Cymreig arlein a gwefan newyddion Golwg 360, gwelwyd 17 Medi 2019.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Related Material

Ceir copi o deyrnged Eurfryn Davies, Llandegfan, Ynys Môn, a draddodwyd yn ei hangladd yn Eglwys Penuel, Bangor, 30 Hydref 2014, yn NLW ex 2979.

Additional Information

Published