CMA: Cofysgrifau Capel Seion, Gyrn Goch

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 GYROCH
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004259931
      (alternative) (WlAbNL)0000259931
  • Dates of Creation
    • 1923-2000
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg
  • Physical Description
    • 0.009 metrau ciwbig (4 cyfrol)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Capel Seion, Gyrn Goch, Dosbarth Clynnog, Henaduriaeth Arfon, sef pedwar llyfr cyfrifon, 1923-2000.

Administrative / Biographical History

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1826 wrth droed y Gyrn Goch, yn ymyl y ffordd rhwng Clynnog-fawr a Llanaelhaiarn. Cyn hynny roedd yr eglwys yn cyfarfod yn nhŷ Griffith Williams, Hen Derfyn, a oedd ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog-fawr a Llanaelhaiarn. Cafwyd tir ar brydles am gant ac un o flynyddoedd am chwe swllt y flwyddyn ar gyfer adeiladu capel a thŷ capel. Roedd capel Seion yn daith gyda'r Capel Uchaf a Brynaerau, yn Nosbarth Clynnog, Arfon, ond pan gychwynnodd achos yn y Pentref aeth Seion yn daith gyda'r Pentref a Chapel Uchaf. Adeiladwyd capel a thŷ diweddarach ar y safle yn 1875. Caewyd y capel yn 2000.

Arrangement

Trefnwyd yn bedair ffeil yn nhrefn amser.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Robert M. Morris, Pen-y-groes, Mehefin 2002.; 0200208857

Note

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1826 wrth droed y Gyrn Goch, yn ymyl y ffordd rhwng Clynnog-fawr a Llanaelhaiarn. Cyn hynny roedd yr eglwys yn cyfarfod yn nhŷ Griffith Williams, Hen Derfyn, a oedd ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog-fawr a Llanaelhaiarn. Cafwyd tir ar brydles am gant ac un o flynyddoedd am chwe swllt y flwyddyn ar gyfer adeiladu capel a thŷ capel. Roedd capel Seion yn daith gyda'r Capel Uchaf a Brynaerau, yn Nosbarth Clynnog, Arfon, ond pan gychwynnodd achos yn y Pentref aeth Seion yn daith gyda'r Pentref a Chapel Uchaf. Adeiladwyd capel a thŷ diweddarach ar y safle yn 1875. Caewyd y capel yn 2000.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Archivist's Note

Rhagfyr 2002

Lluniwyd gan Nia Mai Williams.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Hobley, William, Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910); Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, 2001, Cronfa ddata CAPELI yn LLGC.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir cofrestr y capel, 1825-1836, ac adroddiadau blynyddol, 1936-1961 (gyda bylchau), yn LLGC. Ceir hanes yr eglwys, c. 1910-1924 yn llawysgrif LLGC 9187E, ac hefyd yn Adran y Llawysgrifau, Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor.

Additional Information

Published