Llythyr: S. Morgan, Llanddewi, Dolafon, Chubut, Argentina i Thomas Goodwin, Ynyscoed, Cynwyl Elfed

This material is held atArchifau Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire Archives

  • Reference
    • GB 211 CDX593/4
  • Dates of Creation
    • 1938 Ebr. 27
  • Language of Material
    • Cymraeg
  • Physical Description
    • 1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: S. Morgan, Llanddewi, Dolafon, Chubut, Argentina i Thomas Goodwin, Ynyscoed, Cynwyl Elfed. Mae Mr. Morgan yn ateb yn 61 iddynt yn y Gymraeg gan ddatgan 'Yr ydych chwi gewri Conwyl, rwy'n sicr, yn reit hyddysg ynddi.' Mae'n ddiolchgar iawn iddynt ym Methel am eu caredigrwydd o amgau s1ec am bunt. Sonia am gydweithrediad rhwng pobl a'i gilydd. Cyfeiria at ymdrechion y gynhadledd yng Nghaeredin i gael yr Eglwysi Cristnogol i ddyfod i gytundeb. Cyfeiria at yr hyn sydd yn digwydd yng Nghymru, gan fod Offeiriaid a Gweinidogion yn cyfarfod gyda'r un amcan mewn golwg a'r hyn yng Nghaeredin. Cyfeiria at farwolaeth ficer Cynwyl. Ni all adrodd hanes y wladfa mewn ychydig eiriau ond gobeithia rhyw ddiwrnod gael sgwrs a hwy, fel dywed Mr. Morgan ... .i 'chwi gael . . . hanes rhamantus ein teidiau, os na wyddoch amdano. Mae Mr. Morgan yn Nolavon ers dwy flynedd ac yn mwynhau y profiad yn fawr iawn. Nid ydyw'r Eglwys yn gryf iawn, o'i gymharu ar hyd y dyffryn. Fel trysorydd mae Mr. Morgan yn datgan ei ddiolchgarwch i aelodau Bethel am eu caredigrwydd.

Access Information

Ar Agor / Open

Dim cyfyngiadau / No Restrictions

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da / Good condition