a fu'n perfformio'r ddrama "Talu'r Gymwynas" yn Ngwyl Fai Capel Beulah, Caernarfon.
Awdur y ddrama oedd Tom Jones, tyddyn Rhuddallt, Pontrhythallt, Llanrug. Fe'i hadnabyddid fel Tom Pen Bryn a Tom Jones y Garddwr. Ef hefyd oedd awdur y ddrama "Y bachgen Dewr" a berfformwyd yn ystod yr wyl. Roedd hefyd yn awdur llyfr o straeon byrion "Mynd i'r Môr". Roedd yn aelod o Glwb Awen a Chân, Caernarfon dan arweiniad Anthropos a chafodd ei ysgogi ganddo i roi cynnig ar ysgrifennu drama. Pan symudodd i fyw i Dyddyn Rhuddalt, sefydlodd gwmni drama yng Nghapel Pontrhythallt ac bu hefyd yn gyfrifol am drefnu gwyl ddrama flynyddol pentref Llanrug a gynhaliwyd yn Neuadd yr Eglwys (y 'Church Hall') sydd bellach wedi ei ddymchwel ac ble sfa siop Londis a' Meddygfa ar Ffordd yr Orsaf.