CMA: Cofysgrifau Capel Ffosyffin

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 FFOFIN
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004240284
      (alternative) (WlAbNL)0000240284
  • Dates of Creation
    • 1950-1997
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg
  • Physical Description
    • 0.018 metrau ciwbig (6 cyfrol)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys cyfrolau yn nodi casgliadau tuag at y Weinidogaeth, derbyniadau a thaliadau, 1950-1997, ynghyd â chopi o brydles o ddarn o dir drws nesaf i'r capel, 1985.

Administrative / Biographical History

Sefydlwyd yr achos ar fferm Tynyporth ym mhlwyf Henfynyw ym 1765. Adeiladwyd y capel cyntaf o gwmpas 1780. Codwyd adeilad newydd ar dir a roddwyd ar brydles gan stâd Mynachdy ym 1831. Prynwyd y tir ym 1879 gan y capel oddi wrth Alban Gwynne, Mynachty. Datgorfforwyd y capel ym 1997.

Arrangement

Trefnwyd yn dair cyfres: llyfrau casglu y Weinidogaeth, llyfrau derbyniadau a llyfrau taliadau.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan y Parch Dilwyn O. Jones, Aberaeron, Ebrill 2002.; 0200204339

Note

Sefydlwyd yr achos ar fferm Tynyporth ym mhlwyf Henfynyw ym 1765. Adeiladwyd y capel cyntaf o gwmpas 1780. Codwyd adeilad newydd ar dir a roddwyd ar brydles gan stâd Mynachdy ym 1831. Prynwyd y tir ym 1879 gan y capel oddi wrth Alban Gwynne, Mynachty. Datgorfforwyd y capel ym 1997.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Archivist's Note

Mai 2002

Lluniwyd gan Glyn Parry.

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Evans, Parch J., Hanes Methodistiaeth De Aberteifi (Dolgellau, 1904).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir cofrestr y capel, 1807-1837, yn Archifdy Gwladol RG4/3807 (copi meicroffilm yn LlGC) a chofrestr arall, 1801-1916, yn LlGC, CMA III/EZ1/399/1. Ceir cyfraniadau aelodau, 1846-1948, taliadau yr eisteddleoedd, 1870-1950, cyfrifon, 1834-1953, cofnodion trosglwyddo aelodaeth, 1925-1961, a chofnodion ac ystadegau yr Ysgol Sul, 1927-1971, yn LlGC, CMA III/EZ1/399/2-21.

Additional Information

Published