Gohebiaeth 'Alaw Ddu', 1870-1904; copïau llawysgrif o'i gyfansoddiadau cerddorol, yn cynnwys alawganau, 1878-1901, anthemau,1875-1903, emynau,1865-1895, caneuon crefyddol,1875-1896, caneuon seciwlar, 1879-[c. 1900], a darnau cerddorfaol, 1889-1899; ac eitemau amrywiol, 1879-1894 = Correspondence of 'Alaw Ddu', 1870-1904; manuscripts of his musical compositions, comprising cantatas, 1878-1901, anthems, 1875-1903, hymns, 1865-1895, religious songs, 1875-1896, secular songs, 1870-[c. 1900], and orchestral pieces, 1889-1899; and miscellaneous items, 1879-1894.
Papurau Alaw Ddu (W. T. Rees)
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 ALAWDDU
- Alternative Id.(alternative) vtls003844027(alternative) ANW
- Dates of Creation
- 1865-1904
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh English Cymraeg, Saesneg.
- Physical Description
- 0.058 metrau ciwbig (2 focs)
- Location
- ARCH/MSS (GB0210)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Roedd 'Alaw Ddu', William Thomas Rees (1838-1904), yn gyfansoddwr a aned ym Mhwll-y-glaw, Pont-rhyd-y-fen, Morgannwg. Yn 1851 symudodd i Aberdâr lle y gweithiodd fel glöwr. Yno daeth dan ddylanwad 'Ieuan Gwyllt' (John Roberts) a cherddorion eraill y cyfnod. Yn 1861 symudodd i Dinas, Cwm Rhondda, lle y cyfansoddodd y dôn 'Glanrhonddda'. Yn 1870 symudodd i Lanelli, sir Gaerfyrddin. Arweiniodd gymanfaoedd canu a beirniadu mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, ac roedd yn godwr canu mewn sawl capel, yn cynnwys Trinity, Llanelli. Ffurfiodd y Llanelli Philharmonic Society a golygu ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer nifer o gylchgronau cerddorol diwedd y 19eg ganrif. Yn ogystal â'r darnau sydd yn yr archif, ysgrifennodd yr alawganau 'Llywelyn ein Llyw Olaf'; a 'Y Bugail Da' a phedwar Offeren dros y meirw. Bu farw ar 19 Mawrth 1904 a chladdwyd ef ym Mynwent Capel Newydd, Llanelli.
Arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: llythyrau; amrywiol; a cherddorol, a drefnwyd ymhellach yn alawganau; anthemau; emynau; caneuon crefyddol; caneuon seciwlar; a cerddorfaol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr syd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Ni nodwyd y ffynhonnell.
Note
Roedd 'Alaw Ddu', William Thomas Rees (1838-1904), yn gyfansoddwr a aned ym Mhwll-y-glaw, Pont-rhyd-y-fen, Morgannwg. Yn 1851 symudodd i Aberdâr lle y gweithiodd fel glöwr. Yno daeth dan ddylanwad 'Ieuan Gwyllt' (John Roberts) a cherddorion eraill y cyfnod. Yn 1861 symudodd i Dinas, Cwm Rhondda, lle y cyfansoddodd y dôn 'Glanrhonddda'. Yn 1870 symudodd i Lanelli, sir Gaerfyrddin. Arweiniodd gymanfaoedd canu a beirniadu mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, ac roedd yn godwr canu mewn sawl capel, yn cynnwys Trinity, Llanelli. Ffurfiodd y Llanelli Philharmonic Society a golygu ac ysgrifennu erthyglau ar gyfer nifer o gylchgronau cerddorol diwedd y 19eg ganrif. Yn ogystal â'r darnau sydd yn yr archif, ysgrifennodd yr alawganau 'Llywelyn ein Llyw Olaf'; a 'Y Bugail Da' a phedwar Offeren dros y meirw. Bu farw ar 19 Mawrth 1904 a chladdwyd ef ym Mynwent Capel Newydd, Llanelli.
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Other Finding Aids
Mae copi caled o'r catalog, 'Rhestr o Bapurau Alaw Ddu (W. T. Rees, 1838-1904)', ar gael yn LlGC.
Archivist's Note
Medi 2003.
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol .
Appraisal Information
Action: Cadwyd yr holl gofnodion.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Bibliography
Griffiths, Rhidian, 'Alaw Ddu : o'r pwll at y gân', Y Casglwr, 35 (1988), t. 3.
Additional Information
Published