CMA: Cofysgrifau Capel Bethania, Corris Uchaf

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 BETHCU
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004240769
      (alternative) (WlAbNL)0000240769
  • Dates of Creation
    • 1897-1919
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg
  • Physical Description
    • 0.009 metrau ciwbig (1 bocs)

Scope and Content

Mae'r fonds yn cynnwys Cofrestr Aelodau Cymdeithas Dirwestol y Methodistiaid Calfinaidd, 1897-1919, a Llyfr Casgliad yr Ugeinfed Ganrif, 1901-1903.

Administrative / Biographical History

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1854 ar fin y ffordd o Ddolgellau i Fachynlleth yng Nghorris Uchaf, ym mhlwyf Tal-y-Llyn, Sir Feirionnydd. Codwyd yr ail gapel, ar yr un safle wrth dalcen y llall ym 1867, a chaewyd y capel hwnnw tua 1986.
Hyd at 1869, 'roedd Bethania yn rhan o Eglwys Corris (Rehoboth), ond yn y flwyddyn honno fe'i sefydlwyd fel eglwys ar wahân. Ym 1873, daeth y Capel a Chapel Ystradgwyn gyda'i gilydd yn un daith fugeiliol, ac ar ôl ad-drefniad ym 1911 unwyd hwynt â Rehoboth i ffurfio un ofalaeth eglwysig. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Ddwy Afon yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Arrangement

Trefnwyd ar sail cynnwys yn LlGC yn ddwy ffeil: Cofrestr Aelodau Cymdeithas Ddirwestol a Llyfr Casgliad yr Ugeinfed Ganrif.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr Alun Williams, Dolgellau, Gwynedd, Mawrth 2000, ymysg casgliad o ddeunydd o Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Note

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1854 ar fin y ffordd o Ddolgellau i Fachynlleth yng Nghorris Uchaf, ym mhlwyf Tal-y-Llyn, Sir Feirionnydd. Codwyd yr ail gapel, ar yr un safle wrth dalcen y llall ym 1867, a chaewyd y capel hwnnw tua 1986.
Hyd at 1869, 'roedd Bethania yn rhan o Eglwys Corris (Rehoboth), ond yn y flwyddyn honno fe'i sefydlwyd fel eglwys ar wahân. Ym 1873, daeth y Capel a Chapel Ystradgwyn gyda'i gilydd yn un daith fugeiliol, ac ar ôl ad-drefniad ym 1911 unwyd hwynt â Rehoboth i ffurfio un ofalaeth eglwysig. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Ddwy Afon yn Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Archivist's Note

Mai 2002.

Lluniwyd gan Martin Robson Riley.

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Griffith, Ellis, Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd (Dolgellau, 1885); Owen, Robert, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, o'r Dechreuad hyd y Flwyddyn 1888, Cyfrol I (Dolgellau, 1889); Ellis, Hugh, Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd, 1885-1925 "Y Deugain Mlynedd Hyn", Cyfrol III (Dolgellau, 1928); Cyhoeddiadau Sabothol Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, 1986, 1987.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Related Material

Ceir rhestr o geisiadau oddi wrth eglwysi a henaduriaethau i werthu eiddo, 1936-1939, yn LlGC, CMA I/18550.

Additional Information

Published