Papurau Meurig Walters,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 MEUERS
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844637
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • 1851-1990 /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh English Cymraeg, Saesneg.
  • Physical Description
    • 0.036 metrau ciwbig (4 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau'r Parch. Meurig Walters, yn cynnwys nodiadau a phapurau ymchwil yn ymwneud ag Islwyn ar gyfer ei draethawd MA a chyhoeddi '"Y Storm" gyntaf gan Islwyn' [1960]-1980; cyfieithiadau Saesneg o farddoniaeth Islwyn ac erthyglau Walters ar Islwyn, [1960au-1970au]; drafft o'r traethawd PhD, 'Bywyd a Gwaith Islwyn (1832-78)', a gohebiaeth ynglŷn â'r traethawd, 1976-1987; copïau o ddeunydd cyhoeddedig gan ac yn ymwneud ag Islwyn, 1851-1876; nodiadau ar Joseph Harris [20fed ganrif]; a chopi teipysgrif 'Yr Ail "Storm" gan Islwyn', 1990 = Papers of the Rev. Meurig Walters, comprising research notes and papers relating to Islwyn for his MA thesis and publication of '"Y Storm" gyntaf gan Islwyn' [1960]-1980; translations into English of Islwyn's poetry and articles on Islwyn by Walters, [1960s-1970s]; draft PhD thesis, 'Bywyd a Gwaith Islwyn (1832-78)', and correspondence relating to the thesis, 1976-1987; copies of published material by and relating to Islwyn, 1851-1876; notes on Joseph Harris [20th century]; and typescript of 'Yr Ail "Storm" gan Islwyn', 1990.

Arrangement

Trefnwyd yn ôl dyddiad y rhodd a phwnc.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Sally Morgan, chwaer Meurig Walters; Ferndale, Rhondda; Rhodd; 1988-1991
R.M.'Bobi' Jones; Aberystwyth; Rhodd; 1989

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r archif yn cynnwys cyhoeddiadau a phapurau'n ymwneud ag Islwyn sy'n rhagddyddio geni Meurig Walters, a pheth ddeunydd yn ymwneud â chyhoeddi ei gyfrol'Yr Ail "Storm" gan Islwyn' sy'n ôl-ddyddio ei farwolaeth.

Other Finding Aids

Mae copi caled o'r catalog, yn Mân Restri a Chrynodebau, 1989, t. 94; 1990,t. 88; a 1991, t. 88, ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003.

Lluniwyd gan Annette Stauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1989, 1990, 1991;

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

Additional Information

Published