Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu'r capel, yr Ysgol Sul ac a gweithgareddau diwylliannol. Mae yn cynnwys llyfrau'r eglwys, 1951-1969, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1905-1975, llyfrau'r Eisteddleoedd, 1908-1996, llyfrau cyfrifon,1861-1984, llyfrau casgliad chwarterol,1940-57,llyfr banc, 1928-1953, llyfr llythyrau aelodaeth,1945-1985 a chofrestr aelodau cymdeithas ddirwestol y capel, 1905-1956. Ceir hefyd lyfrau cofnodion a chyfrifon yr Ysgol Sul, 1854-1985, a llyfr cofnodion pwyllgor yr Eisteddfod, 1964-1967.
CMA: Cofysgrifau Eglwys Ffynhonnau, Llanefydd
This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Reference
- GB 210 FFYNHON
- Alternative Id.(alternative) vtls004200323(alternative) (WlAbNL)0000200323
- Dates of Creation
- 1854-1996
- Name of Creator
- Language of Material
- Welsh Cymraeg
- Physical Description
- 0.058 metrau ciwbig (14 cyfrol) + 2 eitem + ??? bocs (Ionawr 2005)
Scope and Content
Administrative / Biographical History
Codwyd y capel cyntaf ym 1795. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1826 ac yna codwyd yr adeilad presennol ym 1861. Decheuwyd yr achos gydag Ysgol Sul a gynhaliwyd yn fferm Ffynhonnau cyn symud i un o'r adeiladau allanol. Ym 1976 ffurfwyd gofalaeth newydd trwy ymuno Ffynhonnau, Cefn Berain a Llanefydd gyda'r Fron a'r Brwcws, Dinbych. Yna, yn dilyn adrefnu pellach, daeth Ffynhonnau yn rhan o ofalaeth Llansannan. Y mae'r achos bellach wedi dod i ben.
Arrangement
Trefnwyd y cyfan o'r archif yn LlGC yn dair adran: cofnodion y capel, yr Ysgol Sul a gweithgareddau diwylliannol.
Access Information
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Acquisition Information
Adneuwyd gan y Parch. Ifor ap Gwilym, Ysgrifennydd Henaduriaeth Dyffryn Clwyd, Ebrill 2001; CMA 2001/1, 0200500238, 0200501132
Note
Codwyd y capel cyntaf ym 1795. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1826 ac yna codwyd yr adeilad presennol ym 1861. Decheuwyd yr achos gydag Ysgol Sul a gynhaliwyd yn fferm Ffynhonnau cyn symud i un o'r adeiladau allanol. Ym 1976 ffurfwyd gofalaeth newydd trwy ymuno Ffynhonnau, Cefn Berain a Llanefydd gyda'r Fron a'r Brwcws, Dinbych. Yna, yn dilyn adrefnu pellach, daeth Ffynhonnau yn rhan o ofalaeth Llansannan. Y mae'r achos bellach wedi dod i ben.
Other Finding Aids
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC.
Archivist's Note
Ebrill 2001.
Lluniwyd gan Merfyn Wyn Tomos.
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Evans, R. H., Hanes Henaduriaeth Dyffryn Clwyd (Dinbych, 1986).
Conditions Governing Use
Amodau hawlfraint arferol.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
Additional Information
Published