Papurau Tom Williams, Temple Bar,

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 TOMAMS
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls003844766
      (alternative) ANW
  • Dates of Creation
    • [c. 1919x1986] /
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Cymraeg.
  • Physical Description
    • 1 bocs.
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Papurau Tom Williams, [c. 1919x1986], yn cynnwys nodiadau, copïau llawysgrif o erthyglau ac ysgrifau ar lenyddiaeth a chrefydd, a thorion o'r wasg o rai o'r erthyglau = Papers of Tom Williams, [c. 1919x1986], comprising notes, manuscript copies of articles and essays on literature and religion, and press cuttings of some of his articles.

Administrative / Biographical History

Ganwyd Tom Williams (1899-1986) yn Temple Bar, sir Aberteifi. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1916 a graddiodd yn y Gymraeg. Ymunodd â staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac arhosodd yno hyd ei ymddeoliad yn 1965. Dychwelodd i Temple Bar i fyw yn 1978. Ysgrifennodd erthyglau, ar bynciau crefyddol a llenyddol yn bennaf, ar gyfer amrywiol gyfnodolion a phapurau newydd, gan gynnwys Y Tyst a Llais Aeron. Bu farw ar 21 Rhagfyr 1986.

Arrangement

Trefn wreiddiol.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Mrs Nancy Davies,; Llanbedr Pont Steffan,; Rhodd,; 1987

Note

Ganwyd Tom Williams (1899-1986) yn Temple Bar, sir Aberteifi. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1916 a graddiodd yn y Gymraeg. Ymunodd â staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac arhosodd yno hyd ei ymddeoliad yn 1965. Dychwelodd i Temple Bar i fyw yn 1978. Ysgrifennodd erthyglau, ar bynciau crefyddol a llenyddol yn bennaf, ar gyfer amrywiol gyfnodolion a phapurau newydd, gan gynnwys Y Tyst a Llais Aeron. Bu farw ar 21 Rhagfyr 1986.

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r crynodeb yn Mân Restri a Chrynodebau, 1987, t. 127, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r crynodeb ar gael ar lein.

Archivist's Note

Mai 2003

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1987; LlGC, Mynegai i Ysgrifau Coffa Cymreig, 1986.

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol.

Appraisal Information

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

Related Material

LlGC Misc Records 294 a 346.

Additional Information

Published