CMA: Cofysgrifau Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog

This material is held atNational Library of Wales / Llyfrgell Genedlaethol Cymru

  • Reference
    • GB 210 MORBYCH
  • Alternative Id.
      (alternative) vtls004249017
      (alternative) (WlAbNL)0000249017
  • Dates of Creation
    • 1880-1997
  • Name of Creator
  • Language of Material
    • Welsh Cymraeg
  • Physical Description
    • 0.027 metrau ciwbig (3 bocs)
  • Location
    • ARCH/MSS (GB0210)

Scope and Content

Mae'r casgliad yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud ag Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, gan gynnwys llyfrau'r Trysorydd, 1942-1997; llyfrau'r Eisteddleoedd, 1880-1972; hanes y Capel; llyfr casgliad chwarterol y Gronfa Ganolog, 1931-1957; a llyfr casgliad y Weinidogaeth, 1906. Ceir hefyd cofysgrifau'r Ysgol Sul yn cynnwys llyfrau cyfrifon unffurf, 1902-1977; llyfrau cyfrifon, 1908-1970; llyfr cofnodion, 1932-1960; a llythyrau aelodaeth, 1900-1906.

Administrative / Biographical History

Agorwyd Capel Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog ym mhlwyf Ynyscynhaearn, yn y flwyddyn 1856. Ailadeiladwyd y Capel ym 1888.

Arrangement

Trefnwyd y cyfan o'r archif yn LlGC yn ddau grwp: cofnodion y Capel a chofnodion yr Ysgol Sul.

Access Information

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Acquisition Information

Adneuwyd gan Mr John Rees Jones, Porthmadog, Mai 2002.; 0200207616

Note

Agorwyd Capel Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog ym mhlwyf Ynyscynhaearn, yn y flwyddyn 1856. Ailadeiladwyd y Capel ym 1888.

Other Finding Aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001.

Archivist's Note

Ionawr 2003

Lluniwyd gan Owain Schiavone.

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cofysgrifau Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog C/3 (Hanes yr Eglwys).

Conditions Governing Use

Amodau hawlfraint arferol

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl

Related Material

Ceir cofrestr bedyddiadau, 1891-1990, yn LLGC, CMA EZ1/415/1; cofnodion, 1948-1990, yn CMA EZ1/415/3; rhestr o aelodau'r Gymdeithas Ddirwestol, 1890-1900, yn CMA EZ1/415/2; a phapurau'n ymwneud â throsglwyddo aelodaeth, 1952-1985, yn CMA EZ1/415/4. Ceir hefyd adroddiadau blynyddol yr Eglwys, 1932-1974, yn LLGC.

Additional Information

Published